Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi enwi carfan newydd sbon o chwaraewyr ar gyfer gêm undydd yn erbyn Pacistan yng Nghaerdydd ddydd Iau (Gorffennaf 8), ar ôl i nifer o chwaraewyr a staff brofi’n bositif ar gyfer Covid-19.

Mae tri chwaraewr a phedwar aelod o staff wedi profi’n bositif.

Yn sgil yr ymlediad, doedd dim modd penderfynu pa chwaraewyr fyddai’n gorfod hunanynysu gan nad oedd modd bod yn sicr faint o’r chwaraewyr oedd wedi dod i gysylltiad â’i gilydd.

O ganlyniad, cafodd y garfan gyfan eu hanfon adref, a bu’n rhaid dewis 18 o chwaraewyr newydd sbon lai na 48 awr cyn y gêm.

Y garfan

Ymhlith y garfan newydd, mae naw cap newydd – Zak Crawley a Dan Lawrence, sydd wedi chwarae mewn gemau prawf, ynghyd â Brydon Carse, Tom Helm, John Simpson, Will Jacks, David Payne, Lewis Gregory and Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan.

Hefyd yn dychwelyd ar ôl cyfnodau o absenoldeb o’r garfan mae Craig Overton, Danny Briggs, Jake Ball, Ben Duckett a James Vince.

Y garfan yn llawn yw Ben Stokes (capten), Jake Ball, Danny Briggs, Brydon Carse, Zak Crawley, Ben Duckett, Lewis Gregory, Tom Helm, Will Jacks, Dan Lawrence, Saqib Mahmood, Dawid Malan, Craig Overton, Matt Parkinson, David Payne, Phil Salt, John Simpson, James Vince.

Cwestiynau i’w hateb

Mae’r ECB yn pwysleisio eu bod nhw’n “hyderus iawn” nad oedd y chwaraewyr wedi torri unrhyw reolau cyn yr ymlediad.

Maen nhw’n dweud mai amrywiolyn Delta sy’n gyfrifol am yr achosion, yn ogystal â rhywfaint o lacio ar eu cynlluniau teithio a phrotocolau’r tîm.

Cafodd y cynlluniau eu newid ychydig eleni ar ôl rhoi’r chwaraewyr dan straen mewn swigen, cynllun oedd wedi gweld Jofra Archer yn cael ei gosbi am adael y swigen i fynd adref wrth deithio o un cae i’r llall.

Yn ôl yr ECB, doedd cadw chwaraewyr o dan y fath amgylchiadau ddim yn gynaladwy ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi “cymryd unrhyw risg” wrth gyflwyno protocol newydd.

Mae’r protocol yn cynnwys ‘amgylchfyd diogel’, ond mwy o deithio a mwy o aros mewn gwestai ar hyd a lled y wlad ac sy’n cael eu defnyddio gan y cyhoedd.

Fe fydd galw chwaraewyr sirol i’r garfan hefyd yn her i Loegr, o bosib, gan fod protocolau sirol yn amrywio o un lle i’r llall, er bod yr holl siroedd yn cynnal eu profion eu hunain hefyd.

Mae hynny, ynghyd â’r profion positif gwreiddiol, am fod yn her ychwanegol i’r ECB ac maen nhw eisoes yn dweud y bydd y chwaraewyr o dan gyfyngiadau llymach nag arfer.

Mae lle i gredu bod y chwaraewyr i gyd wedi cael o leiaf un dos o frechlyn Covid-19, ond mae rhai wedi eu cael yn ddiweddar a dydy hi ddim yn debygol fod ganddyn nhw imiwnedd llawn eto.

Fe fyddai’r ECB wedi bod yn awyddus i fwrw ymlaen â’r gyfres ar ôl i nifer o gyfresi gael eu canslo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ond bydd y sefyllfa’n gadael marc cwestiwn ynghylch y gyfres brawf yn erbyn India ar ddiwedd yr haf, yn ogystal â thaith y Lludw i Awstralia yn y gaeaf – sefyllfa sydd wedi’i chymhlethu gan sefyllfaoedd Covid-19 y gwledydd hynny ar hyn o bryd.