Mae cyfnod heb gerddoriaeth fyw wedi bod yn gyfle i’r cerddor gwerin Patrick Rimes droi ei law at fwy o gyfansoddi a “ffeindio ei lais” fel cyfansoddwr – sydd wedi bod yn beth “reit neis”, meddai.

Bydd darnau newydd gan yr aelod o’r grwpiau gwerin Calan a Vrï i’w clywed ar raglen newydd ar S4C yr wythnos nesaf.

Gan edrych ar y Bermo yn ne Gwynedd, bydd DRYCH: Y Bermo yn edrych ar sut mae ei phobol wedi helpu siapio’r dref, a sut mae’n esblygu yn sgil heriau fel Covid.

Yn ôl Patrick Rimes, roedd yntau wedi “prynu mewn” i’r stereoteip ynghylch y dref fel lle twristaidd a Seisnigaidd ei hiaith, ond wrth weithio ar y rhaglen, sylweddolodd fod y Gymraeg a’r diwylliant yn rhan o’r dref hefyd.

Mae’r rhaglen yn rhan o wythnos gan S4C i ddathlu traethau Cymru rhwng Gorffennaf 12 ac 17, sy’n cael ei noddi gan Groeso Cymru.

Ymysg y rhaglenni eraill fydd priodas fyw Priodas Pum Mil ar un o draethau Cymru, Sgwrs Dan y Lloegr gyda Max Boyce, ac Am Dro: Ar Lan y Môr.

‘Haeddu cerddoriaeth wreiddiol’

“Mae lot o’m mhrofiad i o’r blaen wedi bod yn ymwneud efo cerddoriaeth draddodiadol, rydan ni’n delio efo lot o hen alawon, stwff sy’n bodoli’n barod,” meddai Patrick Rimes wrth golwg360, wrth gymharu’r profiad o gyfansoddi ar gyfer rhaglen deledu gyda’i brofiadau blaenorol.

“Dw i wedi dod ag elfen o hwnna ar draws i mewn i’r prosiect yma, yn amlwg gan fod y rhaglen yn ymwneud efo’r lle ro’n i isio iddo fo gael blas o’r ardal yna.

“Mae ambell i alaw draddodiadol wedi creepio i mewn, ond y rhan fwyaf, stwff gwreiddiol ydi o i gyd.

“Wedyn ro’n i jyst yn ymateb i be’ ro’n i’n ei weld ar y sgrîn rili, i’r cymeriadau ac i rai o’r shots anhygoel o’r ardal a’r môr a’r mynyddoedd a ballu sydd o gwmpas.

“Nes i rili dod i nabod y bobol yma wrth wylio’r cuts gwahanol yn dod mewn, maen nhw’n gymeriadau mor lliwgar ac mor ddiddorol, roedden nhw rili yn haeddu cerddoriaeth wreiddiol a themâu gwreiddiol oedd yn mynd i drio dod â’r whole thing yn fyw.”

‘Be bynnag oedd o ‘nghwmpas’

“Mae lot ohono fo i wneud efo be oedd gen i yn y tŷ,” meddai Patrick Rimes, wrth esbonio sut aeth e ati i ddewis pa offerynnau fyddai’n gweddu ar gyfer y darnau.

“So yn amlwg mae yna lot o ffidils, lot o layered strings yn mynd ymlaen ac mae yna lot fawr o allweddellau a gwahanol synnau keyboards, pianos, pianos trydan.

“Wedyn mae yna eithaf lot o jyst pethau randym oedd o gwmpas y tŷ, so oedd gen i hen acordion oedd allan o diwn ac efo sŵn eithaf nostalgic ac oedd hwnna’n ddefnyddiol ar gyfer rhai bits.

“Mae un o’r tracs yn rili dibynnu ar lot o offer taro, so mae yna egg shakers bach, dw i wedi samplo llond llaw o chopsticks jyst yn disgyn i’r llawr, a wedi lwpio hwnna fatha offeryn taro.

Literally be bynnag oedd o ‘nghwmpas i yn y living room!”

‘Lle llawn Saeson’

“I fod yn onest dw i wedi bod [yn Bermo] cwpl o weithiau, fyswn i ddim yn dweud mod i’n arbenigwr ar y lle, dw i ddim yn gyfarwydd iawn efo fo,” meddai wedyn.

“Ond dw i’n meddwl o’n i kind of wedi prynu mewn i’r stereoteip yma sy’n cael ei drafod yn y rhaglen, fod o’n lle sydd jyst yn llawn Saeson.

“’Da ni’n meddwl amdano fo jyst fel enclave bach ar ei ben ei hun.

“Ond be’ wnes i ddod i ddysgu drwy’r rhaglen yma oedd bod o’n lle rili Cymraeg, bod yna lot o ddiwylliant Cymraeg yn mynd ymlaen yna.

“So wnes i rili enjoio dod i ’nabod yr ardal, ac yn amlwg mae’r traeth yn rhan ohono.”

A hithau’n wythnos Traethau Cymru ar S4C yr wythnos nesaf, mae Patrick Rimes wedi gwneud cyfaddefiad bach.

“Dw i’n fwy o berson mynyddoedd na lan y môr gan ’mod i wedi tyfu fyny yn Bethesda!” meddai, gan ychwanegu fod ganddo sawl atgof braf ar wyliau ger y môr ym Mhen Llŷn yn blentyn.

‘Ffeindio’n llais’

Mae Vrï ymhlith y bandiau ac artistiaid fydd yn perfformio yn Sesiwn Fawr Ddigi-dol ganol fis Gorffennaf, ac roedd recordio’r sesiwn “yn beth rili neis i’w wneud”, meddai Patrick Rimes.

Obviously [does] dim lot o gerddoriaeth fyw o gwbl, ond mewn un ffordd mae o wedi bod yn reit neis achos dw i wedi gallu canolbwyntio ar gyfansoddi.

“So dw i wedi gwneud ambell brosiect eithaf mawr, ac wedi ffeindio’n llais fel cyfansoddwr ychydig bach mwy.

“Fyswn i probably heb allu gwneud hynna os fyswn i ddim efo’r amser i wario arno fel dw i wedi’i wneud dros y deunaw mis diwethaf.”

  • DRYCH: Y Bermo ar S4C am 9yh, 13 Gorffennaf.