Bydd Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru yn croesawu’r byd corawl rhyngwladol yn ôl i Gymru ym mis Hydref eleni, a hynny’n rhithiol.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu gan Eilir Owen Griffiths, cyn-gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, a bydd y gystadleuaeth ar-lein yn cael ei chynnal ar Hydref 30 am y trydydd tro.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2018 a 2019.

Bydd y gystadleuaeth ar agor i gorau ar draws y byd, o bob oedran a llais, ac mae gofyn i gorau gyflwyno eu ceisiadau ar ffurf fideo erbyn Hydref 1.

Fel gyda’r blynyddoedd blaenorol, bydd y corau’n cael eu beirniadu gan banel o feirniaid rhyngwladol.

“Gŵyl o’r radd flaenaf”

“Roeddem wedi gobeithio ail ddechrau’r ŵyl mewn person y flwyddyn hon, ac roedd ein cyngerdd agoriadol wedi ei drefnu ar gyfer dechrau mis Gorffennaf,” meddai Eilir Owen Griffiths.

“Mae’r hyn a allai fod wedi bod yn ddiwrnod trist fel arall, bellach yn ddiwrnod i ddathlu wrth i ni lansio ein cystadleuaeth gyntaf ar-lein.

“Allwn ni ddim aros fel tîm i groesawu corau yn ôl i Gymru eto. Wedi’r cyfan, ni yw ‘Gwlad y Gân’.

“Roedd yr hyn a ddechreuon ni gyda Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru yn ŵyl o’r radd flaenaf, ond eto hefyd yn gystadleuaeth gynhwysol a dw i mor falch ein bod ni’n medru parhau â’r gystadleuaeth ar-lein.

“Fel arweinydd corawl fy hun, dw i’n gwybod pa mor drist oedd hi i beidio gallu dod at ein gilydd i ganu a chystadlu.

“Dan ni hefyd wedi colli’r elfen gymdeithasol wrth gwrs, ond nawr, mae gan gorau rywbeth i weithio tuag ato sy’n helpu i gôr symud ymlaen.

“Dw i’n gobeithio bydd y gystadleuaeth rithiol hon yn rhoi rhywbeth i gorau ar draws y byd gymryd rhan ynddi ac yn gyfle iddynt gynhyrchu rhywbeth arbennig gyda’i gilydd.

“Gyda chymaint o ansicrwydd ar hyn o bryd gyda digwyddiadau byw a theithio rhyngwladol, mae’n wych gallu cynnal cystadleuaeth gorawl ryngwladol sydd heb y rhwystrau yma.”