Yn y nofel Brodorion, mae Ifan Morgan Jones yn mynd â chriw o Gymry ar daith i ynys yng nghanol Môr yr Iwerydd, a’u gadael i’w pethau.

Ymysg y cymeriadau mae tad a’i fab a’i ferch, a’u cariadon hwythau, yno ar wyliau, ac yn chwilio am drysor, diolch i hen hen fap y teulu a oedd yn eiddo i gadfridog ar long Barti Ddu. Mae gan y tad reswm arall i’w hudo nhw yno, sef sefydlu Cymru Newydd. Ond mae yna frodorion ar yr ynys…