Canada oedd y gwrthwynebwyr delfrydol i dîm rygbi Cymru gychwyn gemau’r haf, yn ôl y gyflwynwraig rygbi, Catrin Heledd.

Gyda’r Llewod yn Ne Affrica ar hyn o bryd, roedd disgwyl i chwaraewyr ifanc, llai profiadol gael cyfle ar y daith i’r Ariannin.

Ond bu’n rhaid ei chanslo oherwydd y pandemig Covid-19, gyda gemau’n cael eu trefnu yn erbyn Canada a’r Ariannin yn y Stadiwm Cenedlaethol.