Os yw amaethwyr Cymru yn gorfod cystadlu gyda chig oen a chig eidion rhad o bob cwr o’r byd yna fe fydd Iestyn Tudur-Jones yn sicrhau bod ganddon ni “ddewis clir” o ran safon, fel sydd ganddon ni wrth brynu potel o win.

Mae’r gŵr o Lanrhystud yng Ngheredigion yn un o bum penodiad newydd gan Lywodraeth Cymru i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.

Ac mae pob un o’r pump gyda’u harbenigedd eu hunain, a maes Iestyn Tudur-Jones yw’r sector bîff, cig oen a llaeth yn bennaf.