Un o ‘Feini Prawf Cymhwysedd’ Llyfr y Flwyddyn, yn ôl gwefan y gystadleuaeth, yw ‘bod cynnwys y gwaith, yn sylweddol, yn waith na gyhoeddwyd yn flaenorol’.

Mae un o ddarllenwyr Golwg, sy’n dymuno aros yn ddienw, wedi mynegi pryder fod rhan helaeth o un o’r cyfrolau ar y Rhestr Fer wedi cael ei gyhoeddi o’r blaen.