Mae Dewi Tudur yn fwyaf adnabyddus am ei dirluniau dyfrlliw o gefn gwlad Toscana (Tuscany) yn yr Eidal, sydd wedi bod yn gartref iddo fo a’i deulu ers 2011. Ond mae’r artist, a gafodd ei fagu yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar gan droi ei brofiadau o gael ei fwlio yn yr ysgol yn llyfr i blant.