Mae Lisa Marged, yr actores 33 oed, yn byw yn Llangadog gyda Gwydion y gŵr a’u meibion Walter, sy’n dair oed, a Wilbert, sy’n flwydd a hanner.

Ar hyn o bryd mae i’w gweld gyda’i gŵr ar S4C yn actio cwpwl sy’n ysgaru ar y gyfres gomedi Hyd y Pwrs

Sut brofiad oedd ffilmio Hyd y Pwrs?

Dw i erioed wedi chwerthin gymaint tra’n ffilmio ar unrhyw brosiect. Ro’n ni’n gwybod bod Mr Iwan John yn llawn drygioni ar ôl cydweithio gydag e ar y gyfres Sbridiri i Cyw dros ddegawd yn ôl.

Ond ta pa mor barod roeddwn i i wynebu ei ddireidi eto, roeddwn i a’r cast methu stopio chwerthin, ac mae arna i ofn bod ei ddylanwad e wedi cael effaith ar Aeron Pugh druan. Mae’r ddau yn dalentog tu hwnt pan mae’n dod i gomedi.

Faint o her oedd actio cwpwl sy’n ysgaru gyda’ch gŵr?

Yr her fwya’ tra’n ffilmio sgets ‘Difors Pum Mil’ oedd y ffaith mai byrfyfyr oedd gwraidd y cyfan, felly doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i gael ei daflu ata i… a dw i’n berson trefnus sy’n lico gwybod be’ sy’n digwydd.

Mae yn siŵr bod tri chwarter y deunydd ffilmio wedi cynnwys fi yn byrstio mas i chwerthin.

Mae Iwan ac Aeron yn spot on fel Emma a Tryst [cyflwynwyr Priodas Pum Mil] – ro’n i’n gorfod cnoi fy mochau yn aml.

Mae’r teitl ‘Difors Pum Mil’ yn ddigon chwerthinllyd, heb sôn am gynnwys y ffilmio… a’r ffaith mai fi a fy ngŵr oedd y pâr yn ychwanegu at y comedi!

Roedd e hefyd yn gyfle i ni allu gwaredu unrhyw densiwn a chwythu stêm… falle bod ambell wirionedd yn cael ei ddatgelu!

Lle arall fydde ni wedi eich gweld chi yn y gorffennol?

Mae fy ngwaith actio teledu yn cynnwys Holby City a The Tuckers i BBC 1, Wolfblood i Disney, a 35 awr, Fflam, Parch, Teulu, Alys a Pentalar i S4C.

Hefyd rydw i wedi actio yn Y Storm a Y Negesydd i’r Theatr Genedlaethol a phantomeims blynyddol Cwmni Mega.

Faint o her ydy cadw’r yrfa actio i fynd a magu dau fab?

Mae’n gallu bod yn anodd ar adegau, yn enwedig gan fod y gŵr yn yr un maes.

Ond fel arfer fyddwn ni’n gwneud yn siŵr mai un ohonon ni sydd yn gweithio i ffwrdd am gyfnod hir ar y tro, sydd ddim yn ddelfrydol o gwbl.

Ond pan mae cyfnodau prin yn codi gyda’r ddau ohonom yn gweithio, mae Mam-gu a Dyci WesWes a Dei a GuGu yn barod i estyn llaw. Mae ein dyled ni’n fawr iawn iddyn nhw.

Rhai o gardiau Lisa Marged

Sut mae’r meibion yn ymateb o weld Mam ar Cyw?!

Mae Walter a Wilbert wrth eu boddau ac erbyn hyn dyw hi ddim yn syndod iddyn nhw weld dwy Fam yn yr un ystafell. Dw i’n meddwl bydd rhaid iddyn nhw aros cwpwl o flynyddoedd eto cyn gweld Mam ar Hyd y Pwrs!

Beth arall fyddwch chi’n wneud i gadw’n brysur rhwng y jobsus actio?

Dw i’n rhedeg busnes cardiau a phrintiau Cymraeg Peg a fydd ar werth yn siopau John Lewis am wythnos cyn diwedd y flwyddyn. Dw i hefyd yn gweithio yn siop goffi Y Sied yng Nghaerfyrddin ac yn hyfforddi i fod yn Barista.

Beth yw eich atgof cynta’?

Mam yn eistedd rhyngddo i a fy chwaer yn y gwely yn darllen stori bob nos… roedd ei hwmff a’i hegni yn tanio’r dychymyg yn hawdd, ac mae hi yn dal i fod felly.

Beth yw eich ofn mwya’?

Uchder, ac mae’n gwaethygu wrth i mi fynd yn hŷn.

Pam wnaethoch chi symud i Langadog?

Roedd wastad yn freuddwyd symud i’r wlad pan yn cychwyn teulu, fel bod y bois yn cael magwraeth syml a thawel gydag addysg mewn ysgol fechan wledig.

Fe symudon ni i Langadog gan ein bod wastad wedi dwli ar bentrefi cyffiniau’r Gelli Aur lle buom yn byw am gyfnod, ac fe fachon ni ar y cyfle pan ddaeth yr hen dŷ Fictorianaidd gyda gardd fawr gyda pherllan ar y farchnad.

Rydym wrth ein bodd ac yn adnewyddu’r cyfan ein hunain tra’n byw yno!

Mae’r bois yn eu gogoniant yn gweld yr holl dractors wrth eu gwaith yn y caeau cyfagos.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Y bois sy’n cadw fi’n heini o bump y bore tan saith y nos… dim dowt.

Dw i byth wedi gwneud unrhyw fath o ymarfer corff ond rwyf wrth fy modd yn mynd i grwydro gyda’r teulu bach bob cyfle ga i.

Beth sy’n eich gwylltio?

Pobol ddauwynebog.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Byddai’r pryd bwyd delfrydol gyda theulu a ffrindiau a chael y cyfle i gael eistedd o gwmpas bwrdd unwaith eto gyda Mam-gu a Dad-cu.

Byddai’r wledd yn cychwyn gyda madarch garlleg gyda chaws wedi’i doddi, ac i ddilyn byddai ham wedi’i rostio mewn mêl, moron, pys, tato mash a sôs coch Mam… a thwb anferthol o pic-a-mics i bwdin.

Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?

Y gŵr wrth gwrs. Wnes i gyfarfod Gwydion yn y coleg a bellach rydym ni wedi bod gyda’n gilydd ers 14 mlynedd.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

‘Mowredd Y Byd yn Annwyl i’ – cyfuniad o ‘Mowredd y byd’ a ‘Mowredd annwyl’ sydd wedi cael ei greu gan fy mab tair oed, Walter.

Gwyliau gorau i chi fwynhau?

Bant gyda Gwydion i dref fach hynod o brydferth o’r enw Rovinj yn Croatia. Cwch bach yn ein tywys i’r gwesty oedd ar ynys… yfed, bwyta a chrwydro’r strydoedd caregog. Perffaith.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Y bois.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Seidr Kopparberg blas mefus a leim.

Beth yw’r llyfr difyrraf i chi ei ddarllen?

The Secret gan Rhonda Byrne.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Gorfod ffilmio golygfa ryw gydag Ashley Walters – actor adnabyddus iawn yr oeddwn i yn ei wylio ar amryw o ddramâu ar y pryd – a gorfod mynd yn HOLLOL HOLLOL byrcs achos bod y dillad isaf yr oedd yr adran wisgo wedi rhoi i fi yn cadw cael eu gweld yn y shot. MOWREDD Y BYD YN ANNWYL I, wir!

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Margaret yw fy enw i, nid Marged… sh!

Hyd y Pwrs ar S4C nos Wener am naw