“Dw i ddim yn cofio pryd nad oeddwn i eisiau bod yn rhan o’r byd celfyddydol.”

Dyna eiriau Meilir Rhys Williams sy’n adnabyddus am actio ‘Rhys’ y mecanic ar Rownd a Rownd, ac sydd hefyd yn rhan o griw lliwgar cabaret Cabarela, ac wrthi’n recordio cyfres o bodlediadau LHDT+ – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.

Gyda phlât mor llawn, mae’r diddanwr yn cydnabod ei fod o’n “ychydig bach o workaholic”.

Cafodd ei fagu yn Llanuwchllyn ger y Bala, yn fab i Derek Williams, un o hoelion wyth Cwmni Theatr Maldwyn, a lwyfannodd sioeau cerddorol lu yn y canolbarth.

Mae’n deg dweud felly bod y celfyddydau’n rhan ganolog o’i fagwraeth, ac nad oes fawr ddim wedi newid o ran hynny.

Yn frawd i Osian Huw Williams, prif leisydd Candelas, a Branwen Haf Williams, sy’n aelod o Gowbois Rhos Botwnnog, Siddi a Blodau Papur, mae’n amlwg bod yr ysfa i greu yn y gwaed.

“Ges i fy magu ar aelwyd greadigol iawn, [ac] am fod fy nhad i yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, roedd y celfyddydau yn rhan fawr o’m magwraeth i,” eglura.

“Roedd o’n benderfyniad naturiol i’r tri ohonom ni – fi, fy mrawd, a’m chwaer – i ddilyn gyrfa gelfyddydol neu greadigol, oherwydd y fagwraeth greadigol gafon ni.

“Dw i yn meddwl mai fy nhad i oedd y dylanwad mwyaf.

“Fe wnaeth Cwmni Theatr Maldwyn ddysgu lot i fi, nid yn unig o ran sgiliau perfformio a’r diwydiant celfyddydol, ond hefyd o ran y mwynhad ti’n gallu’i gael o’r celfyddydau ac o berfformio.

“Roedd o’n heintus gweld aelodau’r Cwmni’n perfformio, a ro’n i eisio mynd fyny ar y llwyfan atyn nhw.”

Treuliodd flwyddyn yn astudio diploma yn The Liverpool Institution for Performing Arts, cyn mynd yn ei flaen i wneud gradd yn The Royal Central School of Speech and Drama yn Llundain.

“Ro’n i’n edrych ymlaen at fynd i fyw yn y ddinas ar ôl byw yn Llanuwchllyn am ddeunaw mlynedd, ond roedd y cam i Lerpwl i ddechrau efo’i yn un call dw i’n meddwl,” meddai.

“Roedd o’n agos i adra fel ’mod i’n gallu dod adra ar y penwythnosau, ond ro’n i’n cael blas o fyw yn annibynnol mewn dinas, a bod yn anonymous a chael mwynhau bod i ffwrdd o gartref am ychydig.”

Er bod Meilir Rhys Williams yn fwy adnabyddus am Rownd a Rownd erbyn hyn, mae wedi gwneud ei siâr o waith theatr byw  hefyd.

“Yn gymdeithasol, roedd Deffro’r Gwanwyn efo Theatr Genedlaethol Cymru bendant yn uchafbwynt i fi,” meddai.

“Ond yn greadigol, fyswn i’n gorfod dweud naill ai chwarae ‘Ariel’ yn Y Storm, cyfieithiad o The Tempest gan William Shakespeare, unai hwnna neu chwarae ‘Posner’ yn The History Boys yn Theatre By The Lake yn y Lake District.

“Roedd y cymeriadau yn siwtio fi fel perfformiwr, ac roedden nhw wirioneddol yn herio fi fel actor o ran faint neu be’r o’n i’n gallu ei gyflawni ar y llwyfan.

“O ran mynegiant, mae gen i ddiddordeb mawr yn y byd drag ac yn benodol felly’r rhaglen Ru Paul’s Drag Race,” eglura.

“Nid yn unig achos glamour, yr hwyl a’r irreverence – mae irreverence y drag queens yma mor braf, a refreshing i’w wylio – ond hefyd mae eu hyder nhw i fynegi a chyfleu eu hunain drwy eu crefft mor ysbrydoledig ac mor lliwgar ac mor ddewr, a dydyn nhw ddim yn ymddiheuro amdano fo.”

Yn ddiweddar, mae yna fwy o gymeriadau drag Cymraeg wedi dod i’r amlwg megis Maggi Noggi, Connie Orff, a Menna Pose.

“Mae hi’n braf eu cael nhw achos mae drag queens fatha drych i gymdeithas, yn gallu cyflwyno safbwynt i ni, a dal drych i ddangos lle’r ydyn ni arni a sut rydyn ni’n ymateb i bethau.”

Maggi Noggi yw un o’r gwesteion ar gyfres bodlediadau newydd gan Meilir Rhys Williams ac Iestyn Wyn, o’r enw Esgusodwch fi?, sy’n trafod safbwyntiau gwahanol aelodau o’r gymuned LHDT+ yn Gymraeg.

“Be’r oedden ni eisiau ei wneud oedd rhoi platfform i leisiau gwahanol falla doedden ni ddim wedi’u clywed o’r blaen yn Gymraeg, neu gynnal sgyrsiau doedden ni ddim mor gyfarwydd â nhw drwy’r Gymraeg,” eglura Meilir.

“Mae yna lot o bobol o du allan i’r gymuned yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddysgu mwy drwy sgyrsiau ysgafn am y gymuned LHDT+, ac aelodau o’r gymuned yn falch i glywed eu safbwyntiau – a’u clywed nid jest mewn cyd-destun gwleidyddol lle mae hawliau’n cael eu trafod o safbwynt negyddol.”

Fel un o griw Cabarela, sioe cabaret dan arweiniad chwiorydd soniarus Sorela, bydd Meilir yn rhan o ddigwyddiad ar-lein a fydd yn cael ei ddarlledu’n ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

Ymysg yr holl brysurdeb, mae’r actor wedi dechrau garddio ers dechrau’r clo cyntaf.

“Dw i wedi bod ychydig yn ddiog eleni, a dw i wedi methu plannu llysiau eto,” meddai.

“Dw i ychydig bach o workaholic, yn aml iawn os dw i’n ffeindio’n hun yn segur heb ddim i’w wneud, fydda i wedi meddwl am job.

“Dw i ddim yn licio eistedd yn llonydd, a theimlo fy mod i ddim yn cyflawni rhywbeth.”

  • Gallwch wrando ar Esgusodwch fi? ar ap BBC Sounds, a bydd mwy o wybodaeth ynghylch digwyddiad Cabarela Coll ar gyfryngau cymdeithasol Cabarela yn fuan.