Mae carfan rygbi De Affrica yn hunanynysu am yr eildro yn dilyn prawf Covid-19 positif.

Mae disgwyl i’r Springboks herio Georgia ddydd Gwener (Gorffennaf 9), cyn dechrau’r gyfres yn erbyn y Llewod ar Orffennaf 24.

Mewn datganiad, dywed SA Rugby y bydd y garfan yn cael “profion pellach”.

Ychwanega’r corff llywodraethu y bydd diweddariad yn cael ei gyhoeddi ar ôl i’r sefyllfa gael ei hadolygu gan grŵp cynghori meddygol.

Bu’n rhaid i’r garfan hunanynysu ar Fehefin 28 ar ôl i dri o’u chwaraewyr brofi’n bositif am Covid-19.

Fodd bynnag, cafodd De Affrica ganiatâd i chwarae yn erbyn Georgia ddydd Gwener (Gorffennaf 2), gan ennill o 40-9.

Hon oedd eu gêm brawf gyntaf ers ennill Cwpan y Byd yn 2019.

Mae De Affrica’n brwydro trydedd don o’r coronafeirws, a daeth cyfyngiadau llym i rym yn y wlad wrth i’r Llewod lanio yno yr wythnos ddiwethaf.

Trechodd Y Llewod y Sigma Lions o 56-14 yn eu gêm gyntaf yn Ne Affrica, gydag asgellwr Cymru Josh Adams yn sgorio pedwar cais.

“Dim bygythiad” i daith y Llewod, yn ôl cyfarwyddwr rygbi De Affrica

Mae tri o chwaraewyr De Affrica wedi profi’n bositif am Covid-19
Josh Adams

Canmol y Cymro Josh Adams ar ôl buddugoliaeth y Llewod

Sgoriodd yr asgellwr bedwar cais yn y fuddugoliaeth o 56-14 dros y Sigma Lions yn Ne Affrica