Does “dim bygythiad” i daith rygbi’r Llewod i Dde Affrica, yn ôl Rassie Erasmus, cyfarwyddwr rygbi De Affrica.

Daw ei sylwadau ar ôl i dri o’i chwaraewyr brofi’n bositif am Covid-19.

Mae carfan y Springbok yn ynysu yn Johannesburg, lle mae’r Llewod yn chwarae eu gêm gyntaf ar Orffennaf 3, tra bod Warren Gatland a’i garfan yn teithio i Dde Affrica nos Sul (Gorffennaf 4).

“Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn achos pryder mawr,” meddai Erasmus.

“Ond rydyn ni eisiau cadw pawb mor ddiogel â phosib.”

Bydd De Affrica yn chwarae’r prawf cyntaf o ddau yn erbyn Georgia ar Orffennaf 2 – eu gemau cyntaf ers ennill Cwpan y Byd ym mis Tachwedd 2019.

“Does dim bygythiad naill ai i’r gemau prawf yn erbyn Georgia na thaith y Llewod,” ychwanegodd Erasmus.

Bydd y Llewod yn chwarae wyth gêm ar y daith, gan orffen gyda thair gêm brawf yn erbyn pencampwyr y byd, a’r rheiny yn dechrau ar Orffennaf 24.

Dywedodd Erasmus fod ei dîm wedi dilyn yr holl brotocolau angenrheidiol ers i’w gwersyll hyfforddi ddechrau.

Mae cadarnhad wedi dod mai Hercynl Jantjies, Vincent Koch ac adain S’bu Nkosi yw’r tri chwaraewr gafodd brofion positif, ond bydd y tri yn cael ail brawf.

Roedd Jantjies a Nkosi wedi bod yn hyfforddi gyda’r tîm cenedlaethol, tra cyrhaeddodd Koch o Saracens dros y penwythnos.

“Os ydyn nhw’n bositif, mae’n fater o fod yn anlwcus, nid unrhyw beth y gallen nhw fod wedi’i wneud o’i le,” meddai Erasmus.