Mae sawl newid yng ngharfan rygbi Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol yr haf.

Mae Samson Lee, Seb Davies, Rhys Davies a Lloyd Williams i gyd wedi’u galw i’r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Canada a’r Ariannin.

Daw’r prop Lee i mewn yn lle Tom Francis, sydd wedi anafu ei gefn.

Mae Seb Davies a Rhys Davies wedi’u hychwanegu i gymryd llefydd Adam Beard a Josh Navidi, sydd wedi’u galw i mewn i garfan y Llewod yn Ne Affrica.

Ac mae Lloyd Williams wedi’i ychwanegu rhag ofn na fydd y mewnwr Rhodri Williams yn holliach, wrth i feddygon barhau i asesu ei ysgwydd.

Bydd Cymru’n herio Canada yng Nghaerdydd ar Orffennaf 3, cyn croesawu’r Ariannin ar Orffennaf 10 ac 17.