Mae Dan Biggar, maswr tîm rygbi Cymru, yn cydymdeimlo â’i gydwladwr a chapten y Llewod, Alun Wyn Jones, ar ôl iddo orfod tynnu’n ôl o’r daith i Dde Affrica ar ôl datgymalu ei ysgwydd mewn gêm baratoadol yn erbyn Japan dros y penwythnos.

Mae Jones bellach wedi dychwelyd i Gymru am driniaeth yn dilyn y gêm ym Murrayfield.

Hon fyddai ei bedwaredd taith gyda’r Llewod ond mae Conor Murray, mewnwr Iwerddon, wedi’i enwi’n gapten yn ei le erbyn hyn.

Ac yn ôl Dan Biggar, mae’n rhaid i’r garfan edrych ymlaen at y daith.

“Yn amlwg, mae’n eithaf siomedig i golli eich capten a’ch arweinydd bum neu chwe munud i mewn i’r gêm,” meddai.

“Mae Alun yn eithaf digalon yn yr ystafell newid, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl a does ond angen i chi edrych ar ei record a’i brofiad i wybod y bydd e’n golled enfawr.

“Ond rydyn ni’n lwcus yn y grŵp fod gyda ni lawer o arweinwyr a siaradwyr da.

“Mae pethau’n symud mor gyflym ar y teithiau hyn.

“Pan ydych chi yn y garfan, mae hi bron fel pe bai’n rhaid i’r gweddill ohonom ei roi i’r naill ochr ac edrych ar yr hyn sydd gyda ni.

“Mae e’n amlwg yn mynd i fod yn siomedig dros ben oherwydd fe fu’n ffocws mawr iddo fe dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Bydd hi’n anodd iddo fe ei gymryd, dw i’n gwybod fod ganddo fe deulu ifanc ’nôl adre’ a byddan nhw’n cymryd tipyn o’i amser.

“Mae e wedi bod yn y gêm ers amser hir ac wedi cyflawni bron popeth.

“Os oes yna oleuni, mae’n rhywbeth nad yw e wedi’i wneud o’r blaen.”