Tarodd Stephen Eskinazi 91 heb fod allan wrth i Middlesex drechu Morgannwg o saith wiced mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yn Radlett.
Roedd Morgannwg yn 76 am chwech yn y deuddegfed pelawd ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, ond daeth Dan Douthwaite (53) a James Weighell (51) ynghyd i adeiladu partneriaeth seithfed wiced o 88 i sicrhau cyfanswm parchus o 170 am wyth.
Ond roedd y nod o 171 yn dal yn gymharol hawdd i’r tîm cartref, a dim ond 17.4 o belawdau oedd eu hangen arnyn nhw i gipio’r fuddugoliaeth, gyda chyfres o bartneriaethau wedi’u hadeiladu gydag Eskinazi yn arwain y ffordd.
Morgannwg mewn trafferthion
Collodd Morgannwg wicedi’n llawer rhy aml yn ystod y cyfnod clatsio fel eu bod nhw’n 39 am dair ar ôl chwe phelawd.
Cafodd Colin Ingram ei ddal gan y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio’r troellwr Mujeeb Ur Rahman yn y belawd gyntaf ac roedden nhw’n 22 am ddwy yn y bedwaredd pelawd wrth i Kiran Carlson yrru’n syth at y capten Steven Finn oddi ar fowlio Tom Helm am ddeg.
Cwympodd y drydedd wiced ym mhelawd ola’r cyfnod clatsio wrth i Billy Root gael ei ddal gan Eskinazi yn y slip oddi ar fowlio Finn heb sgorio.
Ddwy belawd yn ddiweddarach, cafodd David Lloyd ei ddal yn gampus gan Finn oddi ar ei fowlio’i hun am 29 i adael Morgannwg yn 50 am bedair.
Roedden nhw’n 55 am bump yn y belawd ganlynol wrth i’r capten Chris Cooke gael ei fowlio gan Daryl Mitchell, bowliwr cyflym Seland Newydd, ond fe lwyddon nhw i gyrraedd 64 am bump erbyn hanner ffordd cyn i Callum Taylor gael ei fowlio am chwech gan y troellwr Nathan Sowter yn y deuddegfed pelawd.
Ond unwaith dan Douthwaite a Weighell ynghyd, roedden nhw’n benderfynol o geisio achub Morgannwg, gyda Douthwaite yn taro tri phedwar a phedwar chwech oddi ar 31 o belenni, a Weighell yn sgorio 51 oddi ar 26 o belenni, gan gynnwys chwe phedwar a thri chwech mewn partneriaeth allweddol.
Ond cafodd Douthwaite ei ollwng ar 45 cyn i Eskinazi ei ddal yn tynnu pelen gan Mitchell, a gipiodd wiced Weighell yn y belawd olaf hefyd wrth iddo yrru at Joe Cracknell ar ochr y goes.
Middlesex yn cwrso
Er i Middlesex ddechrau cwrso’n ymosodol gyda chyfres o ergydion i’r ffin gan Eskinazi, cafodd Cracknell ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Douthwaite am 13 yn y bumed pelawd ond roedd y Saeson yn 55 am un erbyn hyn, ac yn 61 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio.
Cyrhaeddodd Eskinazi ei hanner canred oddi ar 27 o belenni ar ôl taro deg pedwar ac fe wnaeth e barhau i glatsio wrth i Middlesex gyrraedd 89 am un erbyn hanner ffordd trwy’r batiad.
Ychwanegodd Steve Gubbins 24 at y cyfanswm cyn cael ei ddal gan Ingram yn tynnu pelen gan y troellwr llaw chwith Prem Sisodiya, a Middlesex erbyn hynny’n 123 am ddwy yn y bedwaredd pelawd ar ddeg.
Fe wnaeth Eskinazi a Mitchell barhau i gosbi’r bowlwyr, gyda Roman Walker, David Lloyd, Timm van der Gugten, Sisodiya a Weighell i gyd yn cael eu taro am gyfres o ergydion i’r ffin.
Er i Mitchell gael ei ddal gan Billy Root am 32 oddi ar fowlio Douthwaite yn y ddeunawfed pelawd, roedd Middlesex yn closio at y nod yn gyfforddus wrth i Eskinazi glosio at ail ganred mewn tair gêm, gan gwympo naw rhediad yn brin yn y pen draw.
Gyda’r batio a’r bowlio’n dioddef, bydd Morgannwg yn gadael Radlett yn amau a fyddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol pe bai Nick Selman, sydd wedi profi’n bositif am Covid-19, a’r ddau Awstraliad Marnus Labuschagne a Michael Neser, sy’n gorfod hunanynysu, wedi bod ar gael.