Mae Nick Selman, batiwr Morgannwg, wedi profi’n bositif am Covid-19 ar ddiwrnod y gêm ugain pelawd yn erbyn Middlesex yn Radlett (dydd Sul, Mehefin 27).

Bydd yn rhaid i’r chwaraewr, sy’n enedigol o Awstralia, hunanynysu am ddeng niwrnod, ac mae dau Awstraliad arall, Michael Neser a Marnus Labuschagne, allan o’r garfan fel rhagofal yn sgil olrhain cysylltiadau.

Cafodd pob chwaraewr a hyfforddwr arall brofion negyddol, a bydd y gêm yn mynd yn ei blaen.

Mae Billy Root a Sam Pearce wedi’u galw i’r garfan o ganlyniad i’r sefyllfa.

Troellwr coes 23 oed yw’r chwaraewr amryddawn Sam Pearce, ac yntau’n gynnyrch Academi’r sir, a fe yw capten tîm Sir Genedlaethol Cymru ac mae’n aelod o garfan Prifysgol Caerdydd enillodd y Bencampwriaeth Genedlaethol yr wythnos hon.

Mae Morgannwg yn ddi-guro mewn pedair gêm ugain pelawd oddi cartref ym Middlesex, ac roedden nhw’n fuddugol o 21 rhediad yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Carfan Middlesex: S Finn (capten), J Cracknell, B Cullen, S Eskinazi, N Gubbins, T Helm, M Holden, L Hollman, D Mitchell, T Murtagh, J Simpson, N Sowter, Mujeeb ur Rahman

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), C Ingram, D Lloyd, K Carlson, B Root, C Taylor, D Douthwaite, J Weighell, T van der Gugten, P Sisodiya, R Walker, T Cullen, S Pearce.