Mae Chris Gunter wedi beirniadu cystadleuaeth bêl-droed Ewro 2020, gan ddweud ei bod hi’n “jôc o sefyllfa”.
Chwaraeodd Cymru eu dwy gêm gyntaf yn erbyn y Swistir a Thwrci yn Baku, cyn teithio i Rufain i herio’r Eidal yn y gêm grŵp olaf ac yna i Amsterdam ar gyfer y gêm 16 olaf yn erbyn Denmarc ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 26).
Roedd y teithio’n un elfen o anghysondeb yn y twrnament, gyda nifer o wledydd yn cael chwarae gartref tra bod timau fel Cymru wedi croesi’r cyfandir mewn cyfnod byr.
Ar ben hynny, doedd cefnogwyr Cymru ddim wedi gallu teithio i Amsterdam oherwydd sefyllfa Covid-19 gwledydd Prydain, sydd ar restr goch neu oren nifer o wledydd yn Ewrop.
Roedd hynny’n golygu eu bod nhw o dan anfantais yn y stadiwm, gyda’r gêm yn erbyn Twrci’n llawn pobol leol o Baku yn cefnogi eu cymdogion, y gêm yn Rhufain yn gêm gartref i’r Eidalwyr a’r stadiwm yn Amsterdam yn llawn cefnowyr Denmarc a phobol leol oedd yn eu cefnogi yn sgil eu cysylltiad â Christian Eriksen, a gafodd ei daro’n wael yn ystod y gystadleuaeth.
‘Mae taith y mis hwn wedi dod i ben’
Mae Chris Gunter, oedd yn aelod o’r garfan ond oedd heb chwarae yn ystod y twrnament, wedi troi at Instagram i fynegi ei deimladau ar ddiwedd ymgyrch Cymru.
“Felly mae taith y mis hwn wedi dod i ben,” meddai.
“Doedden ni ddim yn haeddu’r sgôr hwnnw ond pwy ddywedodd fod bywyd yn deg.
“Mae’n brifo fel y diawl, ond mae brifo gyda rhai o fy mêts gorau a ffrindiau gorau dw i wedi rhannu ystafell newid gyda nhw ers blynyddoedd yn ei gwneud hi ychydig yn haws.
“Ac mae e rannu fe â chenedl sydd i gyd yn teimlo’r un fath yn ei gwneud hi’n haws fyth.
“Cael ein diystyru cyn i sach o aer gael ei chicio, 3,000 o filltiroedd o gartref.
“Cafodd pob cenedl gefnogwyr lle bynnag roedden nhw wedi mynd, ac eithrio’r 350 oedd wedi torri rheolau’r llywodraeth a’u cyfrifon banc i fod yno, roeddech chi ac roedden ni yn haeddu mwy o’r jôc sefyllfa yn y twrnament yma, ond pwy ddywedodd fod bywyd yn deg.
“Crïwch ond wedyn gwenwch ein bod ni’n bwyta wrth y brif ford unwaith eto.
“A gwenwch eto y byddwn ni’n ôl, a ni fydd y rhai â’r stadiwm lawn yn morio canu ein hanthem yr ydyn ni oll yn ei haeddu.
“Mae’r wlad hon mewn dwylo diogel gyda’r garfan sydd gyda ni, credwch chi fi.
“Byddwn i’n mynd i’r ffosydd gyda phob aelod o’r tîm hwn a’r staff.
“Byddwch yn drist, ond byddwch yn falch.
“Dim ond tair miliwn ohonon ni sydd, ond ni yw’r rhai ff**** lwcus, wyddoch chi.”