Mae’r ddau Gymro Alun Wyn Jones a Justin Tipuric allan o daith y Llewod i Dde Affrica ar ôl anafu eu hysgwyddau yn y gêm baratoadol yn erbyn Japan ym Murrayfield ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 26).

Mae Conor Murray, mewnwr Iwerddon, wedi’i benodi’n gapten yn lle Alun Wyn Jones, sydd wedi datgymalu ei ysgwydd yn dilyn gêm gorfforol – gêm wnaeth y Llewod ei hennill o 28-10.

Mae gan Murray brofiad gyda’r Llewod ar ôl mynd ar ddwy daith yn y gorffennol, ac mae e wedi ennill 89 o gapiau dros ei wlad.

Roedd sôn hefyd fod Maro Itoje, clo Lloegr, a’r maswr Owen Farrell dan ystyriaeth ar gyfer y rôl.

Yn absenoldeb y ddau Gymro, mae dau Gymro arall wedi’u galw i’r garfan, sef y clo Adam Beard a’r blaenasgellwr Josh Navidi.

Mae’r ddau wedi dechrau’n rheolaidd i Gymru’n ddiweddar, gan gynnwys ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd y garfan yn gadael am Dde Affrica heno (nos Sul, Mehefin 27).

Ymateb

“Rydyn ni i gyd yn hynod siomedig ar ran Alun Wyn a Justin,” meddai’r prif hyfforddwr Warren Gatland ar ôl y gêm.

“Mae amseru’r anafiadau hyn yn ymddangos yn arbennig o greulon o ystyried ein bod ni’n hedfan i Dde Affrica yfory, ond yn anffodus, maen nhw’n rhan o’r gêm.

“Bydd Alun Wyn yn amlwg yn golled fawr, ar y cae ac oddi arno, ond fe fydd e’n cael ei ddisodli’n alluog gan Conor.

“Mae Conor yn chwaraewr rygbi rhagorol ac mae’n uchel iawn ei barch ymhlith y chwaraewyr a’r hyfforddwyr.

“Fel un sydd wedi teithio gyda’r Llewod dair gwaith, bydd e’n gwybod beth sydd ei angen fel capten a dw i’n sicr y bydd e’n arwain y garfan â rhagoriaeth.

“Bydd e hefyd yn cael cefnogaeth dda gan grŵp o arweinwyr profiadol.”

Colli profiad

Bydd yn rhaid i Warren Gatland sicrhau nad yw colli Alun Wyn Jones yn ormod o ysgytwad i’r garfan ar drothwy’r daith.

“Does neb mewn sioc oherwydd os ydych chi mewn sioc, mae’n adlewyrchu’n ôl ar y garfan i gyd,” meddai.

“Rydyn ni’n deall fod pethau’n wahanol ac yn symud yn gyflym a rhaid i ni symud ymlaen a bod yn gallu ymateb a gwneud penderfyniadau a dyna’r unig ffordd allwch chi ymdopi ag e.

“Os ydych chi’n mynd i mewn i sefyllfa o sioc ac yn edrych fel pe baech chi mewn panig, yna bydd hynny’n adlewyrchu’n wael arnom ni.”