Cymru 0 – 4 Denmarc

Colli oedd hanes Cymru yn rownd yr 16 olaf yn yr Ewros wrth i gêm yn erbyn tîm Denmarc cryf mewn stadiwm llawn Daniaid yn Amsterdam brofi’n gam yn rhy bell i Gymru.

Roedd Cymru wedi teithio miloedd o filltiroedd i Baku, Rhufain ac Amsterdam.

Ac roedd yn ymddangos fel pe bai’r holl deithio wedi cael effaith wrth i Denmarc ddominyddu am gyfnodau hir gan lwyr haeddu eu buddugoliaeth.

Cafodd Ben Davies, Chris Mepham a Kieffer Moore eu hadalw i’r tîm wrth i Robert Page fynd gyda’r tîm a ddechreuodd y ddwy gêm gyntaf yn y twrnament.

Gwnaeth Denmarc ddau newid o’r tîm a chwalodd Rwsia 4-1, gyda Kasper Dolberg a Jens Stryger yn cymryd lle Daniel Wass a Yussuf Poulsen.

Ac roedd Dolberg yn ddylanwadol gydol y gêm, gan sgorio dwy gôl.

Dechrau da cyn i Ddenmarc ddominyddu

Roedd capten Cymru, Gareth Bale, yn ddylanwadol i Gymru ar ddechrau’r gêm gan weld llawer o’r bêl ar yr asgell – ergydiodd ddwywaith o 25 llath, ond heb lwc.

Arbediodd Kasper Schmeichel ymdrech gan Dan James hefyd, cyn i Ddenmarc ddechrau dominyddu’n araf bach gyda chyfres o gorneli.

Daeth dim byd o’r corneli yn y pen draw, ond sgoriodd Denmarc gôl hyfryd o 20 llath ar ôl 27 munud drwy Dolberg.

Wedyn bu bron i Dolberg ddyblu’r sgôr gyda fflic clyfar ond rhwystrodd Ward ei ymdrech gyda’i goesau.

Ond roedd problemau di-rif gan Gymru wrth i’r hanner cyntaf ddirwyn i ben.

Aeth Connor Roberts oddi ar y maes gydag anaf a chafodd Kieffer Moore gerdyn melyn am y nesaf peth i ddim.

O ddrwg i waeth

Gyda Chymru’n falch o’r chwiban ar yr hanner, aeth pethau o ddrwg i waeth yn yr ail hanner.

Dyblodd Dolberg y sgôr gwta dair munud ar ôl yr hanner.

Roedd Cymru eisiau cic rydd ar ôl i Simon Kjaer wrthdaro gyda Moore – ond parhau wnaeth y chwarae.

Roedd Martin Braithwaite yn rhy gflym i Joe Rodon a gwnaeth Neco Williams smonach o glirio’r croesiad.

Syrthiodd y bêl i Dolberg a sgoriodd ei ail – gyda’r gôl yn cael ei chadarnhau gan VAR.

Cymru ar chwâl a halen yn y briw

Bu i Denmarc ddechrau dominyddu go iawn wedyn – a sgorio trydedd yn hwyr yn y gêm drwy Maehle.

Wrth i bethau fynd ar chwâl i Gymru cafodd yr eilydd Harry Wilson gerdyn coch am drosedd ddigon di-nod ar Maehle.

Gwnaeth Denmarc hi’n bedair yn ddwfn yn amser anafiadau pan gadarnhawyd ymdrech Braithwaite gan VAR ar ôl gwiriad hir.

“Nid dyna sut roedden ni eisiau i’r gêm fynd.”

Yn dilyn y gêm, dywedodd y capten, Gareth Bale: “Nid dyna sut roedden ni eisiau i’r gêm fynd.

“Fe ddechreuon ni’n dda iawn am y 25 munud cyntaf, ond fe ildion ni gôl a newidiodd y gêm ychydig.

“Daethon ni allan yn ail hanner a cheisio chwarae ond yn anffodus fe wnaethon ni gamgymeriad a ildio’r ail – lladdodd hynna y momentwm ar ein hochr ni, braidd.

“Yn amlwg mae gorffen y gêm sut wnaethon ni yn siomedig.

“Mae’r bechgyn yn rhwystredig ac yn grac, mae’n ddealladwy, a byddai’n well gen i ein bod ni’n mynd allan fel yna – yn cicio a sgrechian yn hytrach na’n gwneud dim.”

*

Cymru: Ward; Roberts (N. Williams 41), Mepham, Rodon, B Davies; Allen, Morrell (Wilson 59); Bale (C), Ramsey, James (Brooks 77); Moore (T.Roberts 77).

Denmarc: Schmeichel; Christensen, Kjaer (C) (Andersen 77), Vestergaard; Stryger (Boilesen 77), Hojbjerg, Delaney (Jensen 60), Maehle; Damsgaard (Norgaard 60), Dolberg (Cornelius 70), Braithwaite