Gall pob clwb pêl-droed yng Nghymru nawr groesawu hyd at 100 o gefnogwyr yn ôl i’w stadiwm.
Gwnaed y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru in dilyn digwyddiadau prawf llwyddiannus gan Gymdeithas Bêl-Droed Cymru (FAW) a welodd cefnogwyr yn dychwelyd i sawl gêm gyfeillgar ledled Cymru dros y pythefnos diwethaf,
Neithiwr, chwaraeodd CPD Caernarfon gêm gyfeillgar oddi cartref yn Gresffordd a’r sgôr oedd 2-2.
Heddiw cynhaliwyd nifer o gêmau ledled Cymru.
Ennillodd Bangor 1876 mewn gêm oddi cartref yn erbyn Y Rhyl 1879 o 1-0.
Y cefnogwyr sydd yn berchen y ddau glwb wedi iddyn nhw sefydlu clybiau hollol newydd.
Un a oedd yn edrych ymlaen at wylio gêm Cymru y prynhawn yma – ond a oedd yn hapus iawn hefyd i gael mynd i weld ei glwb lleol, Porthmadog, yn chwarae am y tro cyntaf ers 15 mis oherwydd y pandemig – oedd y Dr Simon Brooks.
Roedd Port yn chwarae yn erbyn y Waun gartref ar y Traeth.
Y sgôr ar hanner amser oedd 3-1 i’r tîm cartref.
Disgrifiodd Simon heddiw fel “diwrnod mawr ym mhêl-droed Cymru”.
Edrych ymlaen at wylio gêm Cymru wedyn, ond mae heddiw yn ddiwrnod mawr ym mhêl-droed Cymru am reswm arall hefyd, wrth i gefnogwyr gael dychwelyd i'r gemau am y tro cynta' wedi'r pandemig. Dyma ni nôl ar y Traeth @CPDPorthmadogFC ar ôl hoe o bymtheng mis! pic.twitter.com/GymV43xpKQ
— Simon Brooks (@Seimon_Brooks_) June 26, 2021
Gall clybiau sy’n disgwyl dros 100 o gefnogwyr wneud cais i CBDC am ymweliad safle er mwyn dangos sut y gall reoli dros 100 o gefnogwyr yn ddiogel, wrth sicrhau y gellir cwrdd â rheolau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Mae CBDC wedi cynhyrchu fideo ar gyfer clybiau a chefnogwyr er mwyn ymgyfarwyddo â’r hyn i’w ddisgwyl ar ddiwrnod chwarae o dan y Rheoliadau Dychwelyd i Gefnogi.
Dywed CBDC ei bod hi’n bwysig nodi bod iechyd a diogelwch pawb sy’n mynychu gêm yn flaenllaw wrth gynllunio a threfnu.
Dyma’r rheolau i gefnogwyr fel ag y mae nhw.
- Os ydych wedi derbyn amser cyrraedd dynodedig, cyfarwyddiadau mynediad a pharcio mae’n rhaid eu dilyn.
- Mae’n bwysig cyrraedd ar eich pen eich hun neu yn eich swigen gartref.
- Cofiwch ddod â gorchudd wyneb a chadw at bellter cymdeithasol. Bydd stiwardiaid yn helpu gyda chyngor ar seddi a llefydd sefyll.
- Cyn mynediad bydd gwiriad tymheredd. Yna bydd angen i chi gwblhau ‘Cod Ymddygiad Gwylwyr’ a ‘Holiadur Meddygol’ (sydd hefyd yn gweithredu fel y ffurf cofnodi ac olrhain). Efallai y bydd rhai clybiau yn gofyn i’r rhain gael eu cwblhau’n ddigidol ar-lein.
- Bydd pwyntiau saniteiddio wedi’u lleoli o amgylch y stadiwm a bydd gofyn i gefnogwyr eu defnyddio.
- Rhaid gwisgo masgiau bob amser a rhaid cadw pellter cymdeithasol trwy gydol y gêm.
- Gwrandewch ar y cyhoeddiadau PA oherwydd gallent gynnwys gwybodaeth bwysig.
- Os oes lluniaeth ar gael, argymhellir defnyddio taliad digyswllt lle bo hynny’n bosibl.