Er bod llywodraeth Denmarc yn swyddogol yn cynghori yn erbyn teithio i’r gêm yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn, mae Cymdeithas Bêl-droed Denmarc wedi dweud bod tocynnau ar ôl – a’u bod yn disgwyl mwy gan fod cefnogwyr Cymru wedi’u gwahardd rhag teithio i’r Iseldiroedd

Bydd Cymru’n herio Denmarc ddydd Sadwrn yn rownd yr 16 olaf, ond mae’r Iseldiroedd wedi gwahardd ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Mae gan gefnogwyr Denmarc hawl i deithio i’r wlad, cyn belled â’u bod nhw’n gadael o fewn deuddeg awr.

Gan fod Denmarc yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac ardal Schengen, mae eithriadau’n gallu cael eu gwneud i’r rheolau ar deithio, a’r angen i hunanynysu, o dan yr amod hwnnw.

Nid yw hynny’n bosib i gefnogwyr Cymru gan nad yw’r Deyrnas Unedig yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd mwyach.

Dydi Cymru, na gweddill y Deyrnas Unedig, ddim ar restr sâff yr Iseldiroedd chwaith, felly nid oes gan bobol hawl i deithio yno.

Bydd 16,000 o gefnogwyr yn cael mynychu’r gêm yn Stadiwm Johan Cruyff yn Amsterdam, ac mae disgwyl y bydd miloedd o gefnogwyr Denmarc yno.

Dywedodd Erik Brogger Rasmussen, cyfarwyddwr Gwasanaethau Dinasyddion Swyddfa Materion Tramor Denmarc ddoe (22 Mehefin) fod posib teithio i’r gêm os ydyn nhw ond yn yr Iseldiroedd am ddeuddeg awr.

Fodd bynnag, esboniodd wrth BBC Wales yn ddiweddarach eu bod nhw’n cynghori pobol i beidio â theithio “yn rhannol oherwydd bod llywodraeth yr Iseldiroedd yn cynghori’n gryf i bobol hunanynysu am ddeng niwrnod pan maen nhw’n cyrraedd yr Iseldiroedd os ydyn nhw’n aros am hirach na 12 awr”.

“Trin yn warthus”

“Fy nheimlad i yw bod cefnogwyr wedi cael eu trin yn warthus gan UEFA o’r cychwyn cyntaf, wnaeth neb feddwl amdanon ni, y teithio rydyn ni’n gorfod ei wneud, y gost rydyn ni’n gorfod talu, pan wnaethon nhw benderfynu ar fformat hwn dwy flynedd a mwy yn ôl,” meddai Tim Hartley, sydd wedi dilyn tîm Cymru i Baku, Rhufain, ac Amsterdam.

“Ar ôl hynny, maen nhw nawr yn dweud wrth gefnogwyr ‘does dim hawl gennych chi fynd mewn i rai o’r gwledydd yma’.

“Er bod Denmarc yn yr un sefyllfa â Chymru, maen nhw’n rhoi mwy o docynnau iddyn nhw ac mae’r awdurdodau’n dweud nad oes hawl gan gefnogwyr o Gymru ddod yma.

“Mae e just yn hollol annheg,” pwysleisiodd wrth golwg360.

“Tra bod timoedd eraill wedyn, megis Lloegr, yn cael chwarae bron i bob gêm gartref.

“Nawr mae rhai yn dweud fod hwn yn gynllwyn yn erbyn y timoedd llai – dw i ddim yn siŵr os yw hynna’n wir.

“Ond dw i just yn meddwl bod e’n warthus bod UEFA yn fodlon, ar ôl gohirio’r bencampwriaeth llynedd, chwarae gemau gyda chyn lleied o gefnogwyr ac yna rhoi mantais annheg i ambell i wlad sy’n cael mynd â chefnogwyr mewn a rhai eraill sydd ddim yn cael mynd â nhw mewn.

“Ac yn y sefyllfa yna mae Cymru ar hyn o bryd.”

Mae Tim Hartley yn Amsterdam erbyn hyn, ac wedi gallu teithio yno yn syth o’r Eidal. Yn ei ôl ef, does dim llawer o gefnogwyr Cymru yno.

“Newydd gyrraedd ry’n i, roedd yna gwpwl o bobol ar ein hawyren ni, ac ry’n ni wedi clywed am bobol gyrhaeddodd ddoe.

“Ond dyna sut wnaethon ni gynllunio pethau, ein bod ni yn yr Eidal yn disgwyl yn hytrach na dod yn ôl i Gymru ac yn trïo dod yn ôl unwaith y rhagor.

“Dyna oedd ein cynllun ni drwy’r amser.”

“Siomedig iawn”

Mae Cadeirydd Cymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru, Vince Alm, wedi dweud wrth y BBC fod cefnogwyr Cymru yn cael eu trin fel “dinasyddion eilradd”.

“Mae’n siomedig iawn na chawsom wybod am hyn ar ddechrau’r gystadleuaeth,” meddai.

“Rwy’n credu y dylai UEFA fod wedi edrych ar y lleoliadau hyn a gwneud yn siŵr bod chwarae teg.”

Yn dilyn y cadarnhad na fydd modd i gefnogwyr Cymru deithio i’r gêm, dywedodd golwr Cymru, Danny Ward, nad yw pêl-droed “yn ddim byd heb gefnogwyr”.

“Canwch gydag angerdd”

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn annog ysgolion ar draws y wlad i ganu Hen Wlad Fy Nhadau fore dydd Gwener (25 Mehefin), a gyrru’r fideos i’r Gymdeithas fel eu bod nhw’n gallu eu rhoi nhw at ai gilydd cyn y gêm.

“Cyn ein gêm Ewro 2020 yn erbyn Denmarc, dydd Gwener carwn weld y gefnogaeth gan ein cefnogwyr ar draws Cymru,” meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Canwch gydag angerdd, dros Gymru.”

Daw hyn ddiwrnod ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud eu bod nhw am i blant gymryd rhan mewn diwrnod ‘Un Prydain Un Genedl’ ddydd Gwener, a oedd yn cynnwys canu ‘Ni Yw Prydain’.

David Brooks yn hyderus y gall Cymru berfformio, er gwaethaf y gefnogaeth i Ddenmarc

“Mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen â’r gêm bêl-droed dan sylw.”

Gair gan y GÔL-YGYDD

Garmon Ceiro

Ma’ cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth – ma’n bwysig, ma’n rhan o’r profiad sy’n uno ni fel cenedl