Mae Gwion Hallam o Yes Cymru Caernarfon wedi disgrifio cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i annog ysgolion i gymryd rhan mewn diwrnod ‘Un Prydain Un Genedl’ ar Fehefin 25 fel rhai paranoid”.

Mae’r digwyddiad yn cynnwys annog pob plentyn i glapio am funud i gydnabod, cofleidio a thalu teyrnged i’r holl bobol hynny a helpodd yn ystod argyfwng pandemig Covid-19.

Byddai disgwyl hefyd i blant ganu’r gân “Ni yw Prydain ac mae gennym un freuddwyd i uno pawb mewn un Tîm Mawr”.

“Rydym yn annog ysgolion ledled y Deyrnas Unedig i ddathlu Diwrnod Un Genedl Prydain Un Genedl ar Fehefin 25, pan fydd plant yn gallu dysgu am ein gwerthoedd cyffredin o oddefgarwch, caredigrwydd, balchder a pharch,” meddai Adran Addysg Llywodraeth Prydain mewn datganiad.

‘Paranoid’

“Dw i ddim yn ffan mawr,” meddai Gwion Hallam wrth golwg360.

“Dw i ddim yn ffan mawr o ysgolion yn gwneud datganiadau mawr cenedlaetholgar ar y cyfryw.

“Mae ysgolion Cymru yn Gymreig o ran ei aniawn a’i natur… ond ti’n meddwl am rywle fel America, mae yno rywbeth Americanaidd iawn amdano fe, on’d oes?

“Ond dw i’n meddwl mai jyst paranoia Llywodraeth Lloegr yw e ar hyn o bryd.

“Mae Llywodraeth Boris Johnson yn gweld yr Alban yn hyderus yn ei hunaniaeth, maen nhw’n gweld bod yr Alban am fod yn wlad normal, annibynnol cyn bo hir.

“A dw i’n meddwl bod hyn yn rhan o’r paranoia yna.

“Mae Cymru yn wlad amlddiwylliannol, yn wlad groesawgar ac mae unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, yn fy marn i, yn perthyn i Gymru.

“Rydyn ni eisiau gweld Cymru gynhwysol, sy’n dod o dan faner y Ddraig Goch yn amlwg.

“Ond hefyd Cymru sy’n dathlu hunaniaeth a chenedlaetholdeb iach fel gwledydd eraill.

“Y broblem gyda Jac yr Undeb, wrth gwrs, ydi ei bod hi’n faner sy’n ymwneud ag imperialaeth.

“Mae yna falchder iach mewn perthyn i genedl ond weithiau, mae codi baner a gwneud rhyw ddatganiadau mawr felly fel ysgol yn gallu edrych ychydig bach yn ymholus ac yn paranoid.”