Mae dyn gafodd ei garcharu am fod â heroin yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i gyflenwi wedi cael gorchymyn i ad-dalu £40,500 mewn enillion troseddol.

Cafodd Grzegorz Kramp o ardal Comins Coch yng Ngheredigion, ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis o garchar ym mis Chwefror yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys.

Clywodd llys fod y gŵr 45 oed yn “gyflenwr cyffuriau sylweddol” yn yr ardal.

Fe wnaeth yr heddlu stopio ei gar a chanfod gwerth £10,000 o heroin y tu mewn.

Wedi iddo gael ei ddedfrydu, dechreuodd Tîm Troseddau Economaidd yr heddlu weithio ar Ddeddf Enillion Troseddu (POCA) yn erbyn Grzegorz Kramp i gymryd yr arian roedd wedi ei ennill drwy weithgarwch anghyfreithlon oddi wrtho.

“Elwa’n ariannol”

“Cynhaliwyd ymholiadau ariannol fel rhan o’r ymchwiliad, a datgelwyd bod swm sylweddol o arian wedi mynd drwy gyfrif banc y diffynnydd yn y cyfnod yn arwain at ei arestio,” meddai’r ymchwilydd arianol Rob Thomas.

“Rhoddodd hyn sail i ni fynd ar drywydd atafaelu Deddf Enillion Troseddu gan ei bod yn amlwg bod Kramp wedi elwa’n ariannol o’i weithgarwch troseddol.”

Ddydd Gwener (Mehefin 18), cafodd gwrandawiad Deddf Enillion Trosedd ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe, lle dyfarnodd y barnwr Huw Rees fod Grzegorz Kramp wedi elwa o £77, 179.66 drwy werthu cyffuriau.

Cafodd orchymyn i dalu £40,500 yn ôl.

“Mae’r gorchymyn hwn yn llwyddiant arall ar ben y ddedfryd wreiddiol oherwydd drwy gymryd yr elw sy’n ariannu troseddu, gallwn atal troseddau pellach rhag digwydd,” meddai Rob Thomas.