Mae Cyngor Sir Ddinbych ac undebau yn annog ffermwyr i ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol wrth fynychu marchnadoedd da byw.

Daw hyn wedi i’r Cyngor dderbyn adroddiadau nad yw rhai ffermwyr yn dilyn y canllawiau.

Dywed y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Cabinet y Cyngor dros Gymunedau Mwy Diogel, fod angen i ffermwyr “ymddwyn yn gyfrifol”.

Ac mae Mari Dafydd Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Dinbych a Fflint Undeb Amaethwyr Cymru, wedi rhybuddio bod “peidio â chadw at y rheolau o gadw pellter cymdeithasol a mesurau diogelwch eraill yn peryglu bywydau”.

‘Hanfodol’

“Rydym yn atgoffa ffermwyr o bwysigrwydd cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol pan fyddant yn mynychu marchnadoedd da byw ac i arfer hylendid da,” meddai’r Cynghorydd Mark Young.

“Gyda’r amrywiolyn Delta nawr yn bresennol yn Sir Ddinbych mae’n hanfodol ein bod yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn dilyn y canllawiau er mwyn helpu i atal lledaenu pellach.

“Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn dilyn y canllawiau ac rydym yn diolch iddynt am y rhan y maent yn ei chwarae i ddiogelu ein cymunedau.

“Rydym wedi bod yn gweithio â marchnadoedd da byw sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau fod mesurau ar waith i’w gwneud hi’n bosibl i ddilyn rheoliadau a chadw’n ddiogel.

“Hoffem atgoffa pobl i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac i drefnu prawf os ydych yn datblygu unrhyw symptomau Covid-19, yn cynnwys yr ystod ehangach o symptomau.”

‘Peryglu bywydau’

“Wrth i’r cyfyngiadau mewn perthynas â Covid-19 gael eu llacio ar draws y wlad, hawdd yw anghofio bod y feirws yn parhau i fod yn fygythiad mawr i’n hiechyd,” meddai Mari Dafydd Jones wedyn.

“Mae peidio â chadw at y rheolau o gadw pellter cymdeithasol a mesurau diogelwch eraill yn peryglu bywydau pobol, ac mae hefyd risg y gallai’r awdurdodau gau marchnadoedd yn ystod cyfnod masnachu pwysig i’r diwydiant ffermio.

“Ni ellir caniatáu hyn ac er budd ein diwydiant a lles y rhai sy’n gweithio ynddo, byddwn yn annog pawb i ymddwyn yn gyfrifol a chadw at y rheolau.”