Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ysgrifennu at Elin Jones, Llywydd y Senedd, yn honni bod Llywodraeth Cymru yn osgoi’r Senedd drwy wneud cyhoeddiadau i’r cyfryngau ar reoliadau Covid-19.
Yn y llythyr, mae’n dweud bod yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan wedi cymryd rhan mewn cynhadledd i’r wasg ar Covid-19 ddoe (dydd Llun, Mehefin 21) er nad oedd disgwyl datganiad ar y pandemig yn y Senedd yr wythnos hon.
“Pan oedd y pandemig ar ei anterth, cafodd y Senedd ei hosgoi’n briodol i sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd yn cael ei rhoi i’r cyhoedd,” meddai yn y llythyr.
“Fodd bynnag, mae pryder cynyddol bod gweinidogion Llywodraeth Cymru yn dod yn rhy gyfarwydd â chynadleddau i’r wasg ac yn anghofio eu cyfrifoldeb i Aelodau o’r Senedd.
“Mae’n destun pryder ei bod yn ymddangos bod Lywodraeth Cymru y cynnal cynhadledd i’r wasg ddechrau’r wythnos pan nad oedd disgwyl datganiad Covid-19 yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon.
“Mae hyn yn annerbyniol ac rwy’n eich annog fel y Llywydd i atgoffa Llywodraeth Cymru y dylid rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am bandemig Covid-19 i’r Senedd yn gyntaf fel y gall aelodau etholedig graffu’n briodol ar eu gweithredoedd.”
‘Cymryd rheolaeth’
Mae Andrew RT Davies yn galw ar y Llywydd Elin Jones i “gymryd rheolaeth” o’r sefyllfa.
“Fel y gwelsom cyn ac ar ôl yr etholiad, gall Llywodraeth Lafur Cymru ddewis a dethol pryd i wneud y cyhoeddiadau hyn er budd gwleidyddol,” meddai mewn datganiad.
“Nid yw’n ofyn mawr i wneud y cyhoeddiadau yn y Senedd yn gyntaf cyn cynnal cynadleddau i’r wasg y mae gweinidogion mor awyddus i gymryd rhan ynddynt.
“Mae angen i’r Llywydd gymryd rheolaeth dros y mater hwn ac fel ei gwrthran yn San Steffan, sicrhau bod cynrychiolwyr sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd yn gallu craffu ar weithredoedd y llywodraeth.”
Llywoddraeth Cymru ‘ddim yn ymddiheruo’
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid ydym yn ymddiheuro am siarad yn uniongyrchol â phobl yng Nghymru am y sefyllfa iechyd cyhoeddus sy’n symud yn gyflym a phenderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar eu bywydau.
“Mae Gweinidogion yn cyhoeddi datganiadau ysgrifenedig i Aelodau’r Senedd am y penderfyniadau hyn cyn y gynhadledd i’r wasg ac maent ar gael i ateb cwestiynau gan Aelodau bob wythnos y bydd y Senedd yn eistedd.”