Mae enwau’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn wedi cael eu cyhoeddi.

Daeth 28 o geisiadau i law eleni, a Jo Heyde o Lundain, Gosia Rutecka o’r Rhondda, a Rob Lisle a David Thomas o Sir Gaerfyrddin sydd wedi cyrraedd y brig.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a’r beirniad eleni oedd Hannah Thomas o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg a Shirley Williams, Is-gadeirydd Panel Dysgu Cymraeg yr Eisteddfod.

“Roedd safon y gystadleuaeth eleni eto yn uchel dros ben, gyda bron i ddeg ar hugain o ddysgwyr brwdfrydig yn cymryd rhan,” meddai Shirley Williams, wedi iddi hi a Hannah Thomas gael cyfle i sgwrsio â phawb cyn penderfynu ar y pedwar fyddai’n cyrraedd y rownd derfynol.

“Cawsom gyfle i fwynhau sgwrs gyda phob un ohonynt, gyda phedwar, yn y pen draw, yn cyrraedd y rownd derfynol.

“Mae’r pedwar yn gwbl eithriadol ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed mwy o’u hanes yn ystod yr Eisteddfod AmGen.”

Jo Heyde

Clywodd Jo Heyde Gymraeg am y tro cyntaf bedair blynedd yn ôl, ac ym mis Hydref 2018 penderfynodd hi fynd ati i ddysgu’r iaith ar ôl ymweld â Chymru.

Dechreuodd drwy wrando ar y radio a darllen llyfrau Cymraeg, ac ar wahân i ddau gwrs undydd dydy Jo, sy’n gerddor, heb fynychu unrhyw ddosbarthiadau Cymraeg.

Erbyn hyn, mae hi’n rhan flaenllaw o fywyd Cymraeg Llundain, yn weithgar gyda Merched y Wawr, a’r Clwb Darllen a’r Cylch Siarad yng Nghanolfan Cymry Llundain. Mae hi hefyd wedi dysgu cynganeddu, ac wedi cyfansoddi nifer o gerddi caeth.

Rob Lisle

Daw Rob Lisle o Abertawe’n wreiddiol, a chafodd ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg gan dderbyn ei addysg yn Saesneg.

Ar ôl cyfnod yn Llundain, daeth yn ôl i fyw yn ardal Caerfyrddin gan ddysgu Cymraeg er mwyn cefnogi’i blant, sy’n mynd i ysgol Gymraeg.

Bum mlynedd ar ôl ymuno â chwrs Cymraeg a nifer o grwpiau lleol, mae Rob, sy’n bensaer, yn manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r iaith yn ddyddiol.

Mae’n ymddiddori yn yr iaith, ei hanes ac yn niwylliant Cymru, ac mae’n weithgar iawn yn ei gymuned ac yn cynnig cyngor ar bensaernïaeth yn Gymraeg.

Gosia Rutecka

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae Gosia Rutecka wedi ymgartrefu yng Nghwm Rhondda bellach.

Mae ganddi bump o blant ac, ar ôl dechrau dysgu Cymraeg, newidiodd gyfrwng addysg ei dau blentyn ieuengaf trwy eu symud i ysgol Gymraeg.

Yn ystod y cyfnod clo, mae hi wedi parhau i fynychu dosbarthiadau Cymraeg ac wedi ffurfio grwpiau cefnogi i ddysgwyr eraill.

Mae hi’n rhan flaenllaw o’r gymuned Gymraeg yn ei hardal ac yn astudio am radd PhD yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

David Thomas

Daw David Thomas o Gaerdydd yn wreiddiol, ac mae’n disgrifio ei hun fel un o’r “genhedlaeth goll” na chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg.

Roedd e’n teimlo fod rhywbeth ar goll o’i fywyd yn sgil hynny.

Ar ôl gadael Cymru i fynd i’r brifysgol, bu’n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond roedd wastad yn awyddus i ddychwelyd i Gymru a dysgu Cymraeg.

Gyda’i ŵr, Anthony, sy’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dychwelodd i’r ardal gan sefydlu distyllfa ar eu fferm yn 2018.

Erbyn hyn mae brand Jin Talog yn hynod boblogaidd ac yn ôl David, mae dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd ac mae’n ei defnyddio bob dydd, gyda’r iaith yn ganolog i bopeth yn y busnes.

Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod AmGen, fydd yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 31 ac Awst 7 eleni.