Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu cynnal ymgynghoriad i breifateiddio’r sianel deledu Channel 4.

Roedd yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cyhoeddi’r penderfyniad ddydd Mercher (Mehefin 23) ar ôl i Aelodau Seneddol holi’r darlledwr ar y mater ddoe.

Fe fyddai symud Channel 4 i berchnogaeth breifat yn sicrhau “ei llwyddiant yn y dyfodol a’i chynaliadwyedd”, meddai’r adran mewn datganiad.

Fe fydd yr ymgynghoriad hefyd yn adolygu’r rheolau o ran ffrydio gwasanaethau fel Netflix, Disney+ ac Amazon Prime Video.

“Rhyddhau potensial”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden: “Mae technoleg wedi trawsnewid darlledu ond mae’r rheolau sy’n amddiffyn gwylwyr ac yn helpu ein sianeli traddodiadol i gystadlu yn dod o oes analog.

“Mae’r amser wedi dod i edrych ar sut y gallwn ryddhau potensial ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus tra hefyd yn sicrhau bod gwylwyr a gwrandawyr sy’n defnyddio cynnwys ar fformatau newydd yn cael eu gwasanaethu gan system deg sy’n gweithredu’n dda.

“Felly byddwn ni nawr yn edrych ar sut y gallwn helpu i sicrhau bod Channel 4 yn cadw ei lle wrth galon darlledu Brydeinig a chysoni rhwng darlledwyr a gwasanaethau fideo ar alw.”

“Blaenoriaethau gwahanol”

Fodd bynnag, dywedodd prif weithredwr Channel 4, Alex Mahon, ddydd Mawrth y gallai’r darlledwr fod â “blaenoriaethau gwahanol” os yw’n cael ei breifateiddio, ac mae wedi rhybuddio rhag gwneud unrhyw beth na ellir ei ddadwneud a allai “niweidio rhai o’r pethau hynny rydyn ni’n eu gwneud dros y sector, o bosib”.

Daeth ei sylwadau ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol Channel 4, a ddangosodd bod £74 miliwn yn weddill ar ddiwedd 2020, yn ogystal â thwf digidol sylweddol.

Dywedodd cadeirydd Channel 4, Charles Gurassa, wrth y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ddydd Mawrth y byddai “cwmnïau Americanaidd mawr” ymhlith y darpar fuddsoddwyr yn Channel 4 pe bai’n cael ei breifateiddio.

Mae Oliver Dowden eisoes wedi cadarnhau fod preifateiddio Channel 4 o dan ystyriaeth fel rhan o adolygiad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, ond ni chyhoeddwyd yr ymgynghoriad yn ffurfiol tan ddydd Mercher.

Mae Channel 4 wedi bod dan berchnogaeth y Llywodraeth ers ei lansio yn 1982 ac mae’n derbyn ei chyllid o hysbysebion. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu cynhyrchwyr annibynnol i wneud rhaglenni i’r sianel.

Daw’r ymgynghoriad cyn i Bapur Gwyn y Llywodraeth gael ei gyhoeddi am ddyfodol darlledu yn yr Hydref.