Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd gwaith ffilmio ar Grav yn cychwyn ddiwedd mis Mehefin.

Bydd y ddrama, sydd wedi ei haddasu o’r sioe lwyfan gan Owen Thomas, Peter Doran a Gareth John Bale yn Theatr y Torch, yn portreadu bywyd y cyn-chwaraewr rygbi a darlledwr, Ray Gravell.

Mae’n un o’r ffigyrau mwyaf adnabyddus yn hanes rygbi Cymru.

Yn dilyn ei bortread o Ray Gravell ar y llwyfan, mi fydd yr actor Gareth John Bale yn chwarae’r prif ran.

Marc Evans, y cyfarwyddwr sydd wedi gweithio ar raglenni megis The Pembrokeshire MurdersManhunt ac Y Bomiwr a’r Tywysog, fydd yn cyfarwyddo’r addasiad o’r ddrama i deledu.

Mae S4C wedi comisiynu cwmni Regan Developments, gyda chwmni Tarian Cyf, i gynhyrchu’r rhaglen, fydd yn cael ei dangos ar S4C ym mis Medi.

‘Cyffrous tu hwnt’

“Mae gweithio ar brosiect o’r math yma, i addasu sioe lwyfan hynod lwyddiannus Owen Thomas i’r sgrîn, yn brofiad cyffrous tu hwnt,” meddai Branwen Cennard, un o gynhyrchwyr Grav.

“Mae’r ddrama wreiddiol yn mynd i wraidd yr hyn oedd yn gyrru Grav fel person ac mae’r sioe wedi ennill canmoliaeth unfrydol.

“Wrth addasu o gyfrwng y theatr i gyfrwng ffilm a theledu, mae’r ddrama wedi datblygu’n helaeth.

“Ond yr un yw’r stori, ac ry’n ni’n gobeithio y bydd yr haenau gweledol ychwanegol, o dan law’r cyfarwyddwr dawnus, Marc Evans, yn dyrchafu’r cynhyrchiad i lefel hyd yn oed yn uwch.”

‘Stori emosiynol’

“Mae’n fraint i gomisiynu drama sydd yn adrodd stori un o arwyr y werin Gymry, Ray Gravell,” meddai Gwenllïan Gravelle, comisiynydd drama S4C

“Roedd Grav yn ffigwr hynod o adnabyddus; fel arweinydd cryf a chrefftus ar y cae rygbi, ac fel cymeriad hoffus, lliwgar, ond cymhleth, oddi arno.

“Mae ei stori yn un emosiynol ac un sydd wedi taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd theatrau ledled Cymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld y sioe yn cyrraedd y sgrin.”