Mae cynllun sy’n rhoi’r cyfle i gymunedau gynhyrchu a chyhoeddi eu straeon lleol yn cymryd cam ymlaen heddiw (dydd Llun, Mehefin 21), wrth i ddwy rwydwaith newydd gael eu lansio.

Mae Shwmae Sir Gâr a Clwyd Tifi yn rhan o gynllun peilot S4C Lleol sy’n galluogi cynhyrchwyr i greu cynnwys wythnosol am eu hardaloedd ar gyfer platfformau digidol a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Nod y peilot fydd datblygu talentau newydd a sicrhau bod pobol o bob cwr o Gymru yn cael eu gweld a’u clywed ar rwydweithiau S4C.

Shwmae Sir Gâr

Yn Sir Gaerfyrddin, mae Cwmni Cynhyrchu Carlam TV wedi ffurfio partneriaeth gyda Chanolfan S4C Yr Egin gan roi cyfle i dalentau newydd ddatblygu platfform fydd yn gwasanaethu ardal eang Sir Gaerfyrddin.

“Un o amcanion sefydlu Canolfan S4C Yr Egin oedd i godi statws y Gymraeg a’i diwylliant a chreu buddiannau ieithyddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol yng Nghaerfyrddin a’r de orllewin,” meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin.

“Mae Shwmae Sir Gâr yn gyfle i wireddu hynny mewn modd cyfoes a chreadigol gan ddatblygu’r berthynas sydd gan Yr Egin â phobol y sir ers agor tair blynedd yn ôl.

“Rwy’n gyffrous iawn am gydweithio â Euros Llyr, Carlam, am y cyfleon a ddaw i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr wrth i’r prosiect ddatblygu lleisiau newydd ac yn bennaf oll i ddod i adnabod rhannau o Sir Gâr na wyddwn amdanynt a rhoi llwyfan i’r cymunedau amrywiol.”

Clwyd TiFi

Mae Clwyd TiFi yn bartneriaeth gyda Nerth dy Ben, cwmni sydd wedi ei sefydlu i adlewyrchu nerth cymuned, diwylliant a gweithgarwch y dalgylch.

Y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr Alaw Llwyd Owen o Ddinbych sy’n arwain tîm o gyfranwyr a gwirfoddolwyr yn ardal yr hen Glwyd sy’n cynnwys Sir Ddinbych, Yr Wyddgrug a rhannau o Gonwy.

“Mae’n gyfnod mor gyffrous i’r gymuned greadigol yn ardal Clwyd – mae na griw ohonan ni sydd ‘di ail ddarganfod ein cynefin dros y misoedd diwethaf a da ni’n edrych ymlaen yn arw i roi llais, lliw a llun i straeon unigryw ein cymuned.” meddai.

Cafodd cynllun S4C Lleol ei lansio ym mis Chwefror gyda phrosiect peilot TeliMôn, y rhwydwaith cyntaf i ymuno â’r cynllun.

Ers lansio mae TeliMôn wedi cyhoeddi degau o straeon difyr gan roi cyfle i dalentau lleol i greu a datblygu sgiliau yn y diwydiannau creadigol.

‘Treialu ffyrdd newydd o weithio ac arloesi’

“Ein nod gyda S4C Lleol yw treialu ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid ac arloesi drwy gyfathrebu‘n ddigidol gan roi’r gwylwyr yng nghalon ein gwasanaethau,” meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.

“Rydyn ni’n gobeithio bydd y cynllun peilot hwn sy’n rhan o’n strategaeth ddigidol yn creu cyswllt agosach gyda’n cynulleidfa, gan hybu’r defnydd o Gymraeg ar lawr gwlad.

“Fel darlledwr cyhoeddus mae gyda ni rôl bwysig i chwarae wrth wasanaethu cymunedau ac ardaloedd lleol. Ein bwriad yw adeiladu ar fentrau lleol gan ddatblygu sgiliau ac annog cynhyrchwyr newydd i’r diwydiant.

“Rwy’n falch iawn o weld y cynllun yn ymestyn i ardaloedd Sir Gâr a Chlwyd.”