Y baritôn 29 oed, Gihoon Kim o Weriniaeth Corea gipiodd wobr Canwr y Byd y BBC neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 19).
Fe ddaeth i frig rhestr o 16 o gantorion o 14 o wledydd, ac fe gafodd enw’r enillydd ei gyhoeddi yn ystod darllediad o’r brif wobr ar BBC Four a Radio 3.
Mae’r wobr yn gyfrifol am roi hwb sylweddol i yrfaoedd nifer fawr o gantorion opera mwya’r byd, gan gynnwys Karita Mattila, Elīna Garanča, Anja Harteros, Dmitri Hvorostovsky, Bryn Terfel, Jamie Barton ac Andrei Kymach, enillydd 2019.
“Roedd cael perfformio fel rhan o Ganwr y Byd Caerdydd y BBC ar ôl y fath flwyddyn heriol yn wefr fawr,” meddai’r enillydd.
“Dw i wedi dwlu bob munud, yn canu ac yn gwylio’r cystadleuwyr eraill.
“Mae ennill y fath deitl uchel ei barch yn fraint anhygoel, yn enwedig o ystyried sgiliau a chelfyddyd eithriadol yr holl gystadleuwyr eraill.
“Fe fu’n daith ysbrydoledig – ac yn un y bydda i’n sicr yn ei chofio am weddill fy ngyrfa.”
Yr enillydd
Cafodd Gihoon Kim ei eni yn Gokseong ac fe ddechreuodd e ganu ym Mhrifysgol Yonsei yn Seoul o dan arweiniad yr Athro Kim Kwan-dong.
Yn 2016-17, enillodd e ysgoloriaeth i’r Junge Oper Hannover.
Enillodd e’r ail wobr yng nghystadlaethau Tchaikovsky ac Operalia, gan ennill gwobr y gynulleidafa yn Operalia hefyd.
Mae e eisoes wedi perfformio mewn cyngherddau yn neuadd gyngherddau Mariinsky yn St Petersburg ac yn Neuadd Zaryadye ym Mosgo gyda Valery Gergiev, ac mae ei gyngherddau sydd eto i ddod yn cynnwys Gŵyl Glyndebourne a’r Bayerische Staatsoper ym Munich.
Y rownd derfynol
Fe wnaeth Gihoon Kim blesio’r beirniaid – y cadeirydd Aidan Lang, y soprano Roberta Alexander a’r bas-baritôn Neal Davies.
Perfformiodd e Largo al factotum allan o Il barbiere di Siviglia gan Rossini; Wie Todesahnung… O du mein holder Abendstern allan o Tannhäuser gan Wagner, a Nemico della patria allan o Andrea Chénier gan Giordano.
Doedd dim cynulleidfa yn Neuadd Dewi Sant ar gyfer y rownd derfynol, oed yn serennu’r mezzo-soprano Alice Coote ac Annilese Miskimmon o Opera Genedlaethol Lloegr.
Y cystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol oedd y mezzo-soprano Claire Barnett-Jones o Loegr, y soprano Christina Gansch o Awstria, y mezzo-soprano Natalia Kutateladze o Georgia, a’r soprano Masabane Cecilia Rangwanasha o Dde Affrica.
Aeth Gwobr Cynulleidfa y Fonesig Joan Sutherland i Claire Barnett-Jones o Loegr yn dilyn pleidlais ymhlith gwylwyr.
‘Ymroddiad, gwytnwch a ffocws’
“Mae’r gystadleuaeth eleni wedi bod yn un o’r rhai mwyaf eithriadol yn hanes BBC Canwr y Byd Caerdydd,” meddai David Jackson, Cyfarwyddwr Artistig BBC Canwr y Byd.
“Roedd yn gwbl galonogol i fod yn dyst i ymroddiad, gwytnwch a ffocws yr 16 o gantorion wrth iddynt baratoi at eu perfformiadau dan amgylchiadau gwbl ddigynsail, ac yna’n ymroi yn llwyr i’w perfformiadau ar y llwyfan.
“Ry’n ni’n diolch iddynt oll am rannu eu celfyddyd ysbrydoledig dros y byd i gyd, a ry’n ni’n dymuno’r gorau i Gihoon Kim yn ei yrfa!”
‘Pob lwc’
“Gan gymryd lle wrth i’r byd ddechrau ail-ymddangos yn dilyn un o’r cyfnodau mwyaf heriol, mae BBC Canwr y Byd Caerdydd 2021 wedi darparu adegau o obaith twymgalon i gynulleidfaoedd gartref, diolch i berfformiadau hyfryd y cantorion hynod galentog,” meddai Jan Younghusband, Pennaeth Comisiynu Teledu Cerddoriaeth y BBC.
“Darlledu perfformio a chelfyddydau o’r safon uchaf i setiau teledu a radio pobol yw cenhadaeth y BBC, ac mae rhifyn 2021 y gystadleuaeth yn sicr yn esiampl o hyn.
“Pob lwc i’r holl gantorion gyda’u gyrfaoedd yn y dyfodol! ”
‘Canu bendigedig’
“Bydd pawb sy’n rhan o gynhyrchiad teledu BBC Canwr y Byd Caerdydd eleni yn ei gofio yn y lle cyntaf am y canu bendigedig,” meddai Paul Bullock, Pennaeth Cerddoriaeth a Digwyddiadau BBC Studios Caerdydd.
“Er ein bod wedi wynebu nifer o heriau cymhleth, mae o hefyd wedi bod yn fraint aruthrol i’r tîm yma yng Nghaerdydd i gynhyrchu rhaglenni’r digwyddiad rhyngwladol pwysig hwn.
“Mewn cyfnod mor anodd i’r Celfyddydau perfformio, roedd yn teimlo mor bwysig i ddarparu’r perfformiadau o safon uchel yma i gynulleidfaoedd fan hyn ac ar draws y byd.
“Llongyfarchiadau i’r holl gantorion ac i’r enillydd Gihoon Kim.”