Portread o Gruff Owen

Yn bennaeth prysur ar label Recordiau Libertino, mae Gruff Owen yn deyrngar i fandiau gorllewin Cymru ac yn angerddol tros gerddoriaeth.

Ar ôl treulio blynyddoedd yn perfformio mewn bandiau, mi sefydlodd y label yn 2017 yn ei amser sbâr, gyda’r nod o hybu talent gerddorol Sir Gâr.

Ac erbyn hyn mae wedi troi’n anferth o beth gyda sawl un o artistiaid amlycaf y Sîn Roc Gymraeg yn cyhoeddi eu cerddoriaeth dan faner Libertino.