Un o drefnwyr gŵyl Gelf Metamorffosis, sy’n digwydd yr wythnos hon. Mae’r Darlithydd Astudiaethau Almaenaidd 41 oed wedi ei magu yn yr Almaen, ac wedi byw am gyfnod yn Sheffield…

Beth yw gŵyl Metamorffosis?

Gŵyl Gelf leol ym Mangor sy’n cael ei chynnal gyda’r nos yn ystod yr wythnos, a drwy’r dydd y Sadwrn a’r Sul hwn.

Mae hi’n ŵyl fach ond cyffrous ar gyfer pob oedran, gyda’r artistiaid wedi datblygu fformatau newydd sy’n addas ar gyfer y cyfnod covid.