Mae David Brooks yn mynnu y gall Cymru gael gêm dda yn erbyn Denmarc – a hynny er gwaethaf y gefnogaeth i’r Daniaid yn y stadiwm, ac ar draws Ewrop wedi i’w chwaraewr canol cae, Christian Eriksen, orfod cael ei ruthro i’r ysbyty yn eu gêm gyntaf.

Mae Cymru’n cwrdd â Denmarc yn Amsterdam – hen gartref Eriksen yn ei ddyddiau gyda chlwb Ajax – ddydd Sadwrn, gyda chefnogwyr pêl-droed ledled Ewrop yn dymuno’n dda i’r Daniaid ar ôl yr hyn ddigwyddodd.

Dioddefodd Eriksen ataliad y galon yn y gêm yn erbyn y Ffindir yn Copenhagen – a dywedodd meddyg y tîm, Morten Boesen, “ei fod wedi mynd” cyn cael ei drin ar y cae a’i ruthro i’r ysbyty.

Mae cyn-chwaraewr Tottenham bellach yn gwella gartref ar ôl cael ei ryddhau o’r ysbyty ac roedd yn gwylio ar y teledu wrth i Ddenmarc guro Rwsia 4-1 ddydd Llun i sicrhau’r gêm gyda Chymru yn Arena Johan Cruyff.

“Gwellhad buan iddo”

“Roedd y byd i gyd yn gwylio ac nid oedd yn beth neis i’w weld,” meddai Brooks pan ofynnwyd iddo am y gefnogaeth eang i Ddenmarc yn dilyn salwch Eriksen.

“Mae ganddo wraig a phlant, ond diolch byth mae’n ôl adref ac yn iach. Bydd pawb, fel fi, yn dymuno gwellhad buan iddo.

“Ond mae’n rhaid i chi ei roi i un ochr, mewn ffordd. Mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen â’r gêm bêl-droed dan sylw.”

Mae cefnogwyr Cymru wedi’u gwahardd rhag mynd i mewn i’r Iseldiroedd oherwydd rheoliadau Covid-19 gan nad yw’r Deyrnas Unedig ar restr gwledydd diogel yr Iseldiroedd.

Nid yw Denmarc ar y rhestr ddiogel ychwaith ond, i drigolion yr Undeb Ewropeaidd ac ardal Schengen, mae eithriad i’r rheolau cwarantin – gall cefnogwyr Denmarc osgoi cwarantin yn yr Iseldiroedd drwy dreulio llai na 12 awr yn y wlad.

Nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol i gefnogwyr Cymru ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Y Wal Goch

Dywedodd Brooks: “Yn amlwg, dyw gweld cefnogwyr Denmarc yn gallu teithio, tra bo rhai Cymru ddim, ddim yn neis i ni.

“Gwnaeth rhai o’r ‘Wal Goch’ y daith saith awr i Baku a hoffem eu cael yno.

“Ond ry’n ni eisiau eu gwneud nhw’n falch yn ôl adref, ac ry’n ni am ysgrifennu ein hanes ein hunain.

“Yn amlwg, mae’r bechgyn oedd yno y tro diwethaf [pan oedd Cymru yn rownd gynderfynol yn Euro 2016] wedi cadarnhau eu lle mewn hanes drwy wneud yr hyn a wnaethon nhw.

“Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n wahanol. Mae rhai bois oedd yno yn Euro 2016 gyda ni nawr, ond i’r bechgyn newydd rydyn ni eisiau ail-greu rhywbeth fel hynna a bod yn y llyfrau hanes ein hunain.”

Ymddangosiadau o’r fainc

Nid yw Brooks wedi dechrau gêm eto yn Ewro 2020, gyda blaenwr Bournemouth yn cael ei gyfyngu i ddau ymddangosiad o’r fainc.

Mae wedi chwarae llai nag 20 munud, ac mae’n cyfaddef ei bod wedi bod yn anodd gwneud argraff, gan mai’r capten, Gareth Bale, sy’n llenwi ei safle.

“Nid dyma’n union lle dw i am fod, yn eistedd ar y fainc ar gyfer y tair gêm gyntaf,” meddai Brooks.

“Dyw hynny ddim yn gyfrinach. Mae’n anffodus bod y dyn yn fy safle yn chwarae i Real Madrid ac yn un o’r chwaraewyr gorau yn y byd!

“Mae jyst rhaid bod yn barod am unrhyw gyfle sy’n dod. Bod yn barod os ga’i fy ngalw.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd yn gêm anodd, ond rydyn ni i gyd yn edrych i’r cyfeiriad cywir ac yn gobeithio y gallwn ni wneud y busnes.

“Os nad ydych chi’n perfformio ar y diwrnod, rydych chi’n debygol o fynd adre’. Mae’r bechgyn i gyd yn gwybod hynny.”

Cefnogwyr Cymru yn Baku

Ewro 2020: Tocynnau ychwanegol i Ddenmarc gan fod cefnogwyr Cymru wedi’u gwahardd rhag teithio i’r Iseldiroedd

Cefnogwyr Denmarc yn cael teithio i’r Iseldiroedd am ddeuddeg awr gan eu bod nhw’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd