Mae ymosodwr Caerdydd, Robert Glatzel, wedi ymuno â Hamburg yn barhaol.

Mae’r blaenwr 27 oed, a ymunodd â’r Adar Gleision o Heidenheim ym mis Gorffennaf 2019 ac a dreuliodd ail hanner y tymor diwethaf ar fenthyg yn yr Almaen gyda Mainz, wedi arwyddo am ffi nas datgelwyd.

Dywedodd datganiad ar wefan Caerdydd: “Gall Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gadarnhau bod Robert Glatzel wedi ymuno â Hamburg ar gytundeb parhaol, am ffi nas datgelwyd.

“Mae’r ymosodwr yn gadael Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl dau dymor yn ne Cymru, lle sgoriodd un ar ddeg gôl ym mhob cystadleuaeth.

“Hoffem ddiolch i Robert am ei ymdrechion yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd – a dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”