Mae’r chwarewr canol cae Ryan Wintle wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd ar ôl i’w gytundeb â Crewe Alexandra ddirwyn i ben.
Ac fe fydd ganddo fe wyneb cyfarwydd yn ei glwb newydd, ac yntau’n ffrind agos i Perry Ng.
Mae Wintle, sy’n 24 oed, yn dweud ei fod e’n “ysu” i gael dechrau yng Nghaerdydd ar ôl llofnodi cytundeb tair blynedd.
“Wnes i siarad â Perry unwaith ges i wybod am y diddordeb ac roedd ganddo fe feddwl mawr o’r lle yma,” meddai wrth Cardiff City TV.
“Pan nad oedd gêm gyda ni, wnes i wylio Caerdydd oherwydd ro’n i’n gwylio Perry.
“Nawr dw i yma fel chwaraewr, felly gobeithio y gallwn ni ennill gemau gyda’n gilydd.”