Mae trefn gemau pêl-droed Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd ar gyfer tymor 2021-22 wedi cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mehefin 24).

Bydd y tymor newydd yn dechrau ar Awst 7.

Bydd Caerdydd yn croesawu Barnsley ar y dyddiad hwnnw, tra bydd Abertawe’n teithio i Blackburn a Chasnewydd yn teithio i Oldham.

Bydd y gêm ddarbi gyntaf rhwng yr Elyrch a’r Adar Gleision yn Stadiwm Liberty ar Hydref 16, gyda’r gêm gyfatebol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ebrill 2.

Sheffield United fydd gwrthwynebwyr cynta’r Elyrch ar eu tomen eu hunain cyn croesawu Stoke yr un wythnos.

Taith i Millwall fydd gan yr Elyrch ar Ddydd San Steffan, gyda gemau cartref yn erbyn Luton a Fulham dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd.

Bydd Caerdydd gartref yn erbyn Coventry ar Ddydd San Steffan, cyn teithio i Bournemouth a West Brom dros gyfnod y Flwyddyn Newydd.

Daw tymor yr Elyrch i ben gartref yn erbyn QPR ar Fai 7, tra bydd Caerdydd yn teithio i Derby – os yw Derby yn cael aros yn y Bencampwriaeth.

Gallen nhw orfod cwympo i’r Adran Gyntaf (League One) o hyd, a hynny ar ôl iddyn nhw gael dirwy o £100,000 am anghysondeb yn eu cyfrifon.

Cafwyd y clwb yn ddieuog 18 mis yn ôl o’r un drosedd, ond fe wnaeth y Gynghrair Bêl-droed ennill apêl yn gynharach eleni – dydy’r canlyniadau ddim yn glir eto, ond pe bai Derbyn yn gorfod gostwng, byddai Wycombe yn codi i’r Bencampwriaeth eto ar ôl gostwng ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac yn cymryd drosodd trefn gemau Derby.

Casnewydd

Bydd gêm gartref gyntaf Casnewydd yn erbyn Mansfield yn Rodney Parade ar Awst 14, wythnos ar ôl iddyn nhw ddechrau oddi cartref yn Oldham.

Byddan nhw gartref yn erbyn Forest Green, eu gwrthwynebwyr yng ngêm gyn-derfynol y gemau ail gyfle, ar Ddydd San Steffan, cyn teithio i Leyton Orient a Walsall rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Daw tymor yr Alltudion i ben ar Fai 7 gyda gêm gartref yn erbyn Rochdale.