Mae Bruno Lage, cyn-is reolwr tîm pêl-droed Abertawe, eisiau ychwanegu Tony Roberts, hyfforddwr gôl-geidwaid Cymru, at ei staff yn Wolves, yn ôl adroddiadau.
Cafodd Lage, oedd yn gweithio o dan Carlos Carvalhal yn ystod tymor ola’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair, ei benodi ym Molineux yn ddiweddar.
Ac mae lle i gredu ei fod e am gydweithio eto â Roberts, oedd yn hyfforddwr gôl-geidwaid yr Elyrch yn ystod cyfnod Carvalhal wrth y llyw.
Mae Roberts, sydd wedi gweithio gyda Dangenham & Redbridge, QPR, Arsenal a Birmingham yn y gorffennol, yn aelod o dîm hyfforddi Rob Page yn yr Ewros ar hyn o bryd.
Mae’n gweithio gyda charfan Cymru ers 2016, ac fe gafodd e gyfnod yn cydweithio â Chris Coleman, cyn-reolwr Cymru, yn Tsieina hefyd.