Mae prif hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham wedi enwi’r un tîm a drechodd yr Eidal ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y timau dan 20 ym Mharc yr Arfau Caerdydd nos fory (nos Wener, Mehefin 25).
Bydd y gic gyntaf am 8 o’r gloch.
Trechodd Cymru yr Eidal 25-8 yn ei gêm agoriadol yr wythnos ddiwethaf, ond mae Ioan Cunningham yn disgwyl gornest tipyn anoddach yn erbyn y Gwyddelod.
Mae dau newid ar y fainc, gyda Christ Tshiunza o Exeter Chiefs a Rhys Thomas o’r Gweilch yn cymryd lle Tristan Davies ac Evan Lloyd.
“Mae hi wastad yn dda dechrau gyda buddugoliaeth i adeiladu arno, a chwarae teg i’r grŵp, fe wnaethant berfformio pan oedd angen iddynt wneud hynny,” meddai Cunningham.
“Mae digonedd i’w ddatblygu o hyd gyda’r grŵp ond rydym yn dod yn agosach, sy’n beth da.
“Gobeithio y bydd y grŵp yn parhau i dyfu a gwella pob gêm a dyna un o’r prif resymau pam ein bod yn cadw’r un grŵp, i gael y cysylltiadau hynny a chael y cydlyniant hwnnw yn y grŵp eto.
“Mae’n mynd i fod yn fath gwahanol o her yr wythnos hon gyda’r bygythiad cicio sydd ganddyn nhw ac mae eu blaenwyr yn hoffi cario’r bêl felly mae’n rhaid i ni berfformio eto’r wythnos hon.”
Y Tîm
Jacob Beetham (Gleision Caerdydd), Dan John (Exeter Chiefs), Ioan Evans (Pontypridd), Joe Hawkins (Gweilch), Carrick McDonough (Dreigiau), Sam Costelow (Scarlets), Harri Williams (Scarlets); Garyn Phillips (Gweilch), Efan Daniel (Gleision Caerdydd), Nathan Evans (Gleision Caerdydd), Joe Peard (Dreigiau), Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs), Alex Mann (Gleision Caerdydd – Capt), Harri Deaves (Gweilch), Carwyn Tuipulotu (Scarlets)
Eilyddion
Oliver Burrows (Exeter Chiefs), Theo Bevacqua (Gleision Caerdydd), Lewys Jones (Nevers), James Fender (Gweilch), Christ Tshiunza (Exeter Chiefs), Ethan Lloyd (Rygbi Caerdydd), Will Reed (Dreigiau), Tom Florence (Gweilch), Morgan Richards (Dreigiau/Pontypridd), Eddie James (Scarlets), Rhys Thomas (Gweilch)
Gemau’r Chwe Gwlad sy’n weddill
Nos Wener, Mehefin 25: Cymru v Iwerddon, 8yh
Dydd Iau, Gorffennaf 1: Ffrainc v Cymru, 5yh
Nos Fercher, Gorffennaf 7: Cymru v Lloegr, 8yh
Nos Fawrth, Gorffennaf 13: Yr Alban v Cymru, 8yh