Mae Kieffer Moore, ymosodwr Cymru sy’n 6’5″, yn poeni bod ei daldra’n golygu ei fod e’n “darged hawdd” i ddyfarnwyr ei gosbi.

Roedd e ar y fainc ar gyfer gêm grŵp olaf Cymru yn erbyn yr Eidal yn Ewro 2020, a hynny rhag ofn iddo fe weld cerdyn melyn a fyddai’n ei atal e rhag chwarae yn rownd yr 16 olaf yn erbyn Denmarc yn Amsterdam ddydd Sadwrn (Mehefin 26).

Ond fe gafodd ei alw i’r cae am ei bresenoldeb ar ôl i Ethan Ampadu weld cerdyn coch ar ôl 54 munud, a chael gorchymyn gan y rheolwr Rob Page i “neidio heb freichiau”.

“Pan fo dyfarnwyr yn edrych ar fy maint a fy nhaldra, dw i fel fy mod i’n darged hawdd,” meddai wrth Sky Sports News.

“Os ydi gwrthwynebwyr yn mynd i lawr, yn realistig, dw i fwy na thebyg heb eu cyffwrdd nhw ond maen nhw wedi’u taflu eu hunain ar lawr fel ei bod yn edrych fel fy mod i.

“Mae’n fater o gymryd fy hun allan o’r sefyllfaoedd hynny ac edrych fel pe na bawn i’n gwneud hynny, wir.”

‘Neidio heb freichiau’

Mae Kieffer Moore wedi sgorio chwe gôl mewn 20 gêm dros Gymru, ac roedd e’n allweddol yn yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2020.

Sgoriodd e yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn y Swistir, ond fe gafodd e gerdyn melyn am daro Fabian Schär yn ei wyneb.

Cafodd e orchymyn gan y capten Gareth Bale yn Rhufain wedyn i fod yn ofalus rhag cael cerdyn melyn a fyddai’n golygu na fyddai wedi gallu chwarae yn erbyn Denmarc.

“Mi wnes i hynny, ond mae neidio heb freichiau’n anodd iawn,” meddai.

“Mewn ffordd, roedd rhaid i fi fynd drwodd i beidio â chael cerdyn melyn.

“Mae’n fater o addasu, os galla i beidio â chael cerdyn melyn arall, mi fydda i’n hapus i barhau i geisio gwneud hynny.”

“Neidia heb freichiau”

Y neges gafodd Kieffer Moore cyn dod i’r cae yn eilydd yn y gêm fawr yn erbyn yr Eidal yn Rhufain