“Neidia heb freichiau” oedd neges Robert Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, i’w eilydd Kieffer Moore cyn iddo fe ddod i’r cae yn y gêm fawr yn erbyn yr Eidal yn Rhufain yn Ewro 2020 ddoe (dydd Sul, Mehefin 20).
Mae Cymru drwodd i’r rownd 16 olaf er iddyn nhw golli’r gêm olaf yn eu grŵp o 1-0 yn y Stadio Olimpico, a hynny ar wahaniaeth goliau dros y Swistir, oedd wedi curo Twrci o 3-1 yn Baku.
Roedd Page eisoes wedi gweld Ethan Ampadu yn cael cerdyn coch ar ôl 55 munud am sathru ar droed Federico Bernardeschi, ac roedd Moore un cerdyn melyn i ffwrdd o waharddiad ar gyfer y gêm nesaf.
“Es i gyda fy nghalon ar gyfer yr hanner awr olaf a chael Kieffer ar y cae,” meddai Page.
“Fel arall, bydden ni wedi bod yn gwersylla ar ymyl ein cwrt cosbi ni.
“O wneud hynny yn erbyn tîm Eidalaidd da iawn, bydden nhw wedi ein torri ni i lawr eto ac fe allai fod wedi bod yn ddwy neu dair [gôl].
“Mae Kieffer yn un o’r chwaraewyr hynny a allai, yn anffodus, gael cerdyn melyn yn ddamweiniol.
“Roedd e’n deall fy mhryder.
“Fe wnes i ofyn iddo fe neidio heb freichiau ac fe wnaeth e. Roedd ei wylio fe’n neidio’n ddoniol dros ben.”
‘Penderfyniadau anodd’
Mae’r rheolwr yn cyfaddef fod ganddo fe nifer o “benderfyniadau anodd” i’w gwneud cyn y gêm, gyda Kieffer Moore wedi sgorio yn erbyn y Swistir.
Ond roedd e, Ben Davies a Chris Mepham un cerdyn melyn i ffwrdd o waharddiad, gyda Chymru’n wynebu naill ai Denmarc, y Ffindir neu Rwsia yn Amsterdam yn y rownd nesaf.
“Roedd fy nghalon yn dweud wrtha’ i i barhau â’r momentwm yn erbyn Twrci a chadw i fynd,” meddai.
“Ond roedd elfen o risg gyda’r tri boi ar gerdyn melyn.
“Roedd tebygolrwydd cryf – o 95% – y bydden ni wedi mynd drwodd beth bynnag, felly fe wnes i eu rhoi nhw ar y fainc.
“Roedden nhw’n deall fy mhryder ac yn cytuno â’r penderfyniad.”
‘Peidiwch â thanbrisio cymeriad Cymro’
Cymru yw’r genedl leiaf yn nhermau ei phoblogaeth i gyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016 yn Ffrainc, ac mae Robert Page yn dweud bod llawer o’r llwyddiant yn ymwneud â chymeriad y Cymry.
“Peidiwch â thanbrisio cymeriad Cymro,” meddai.
“Mae’n rhagorol yr hyn sydd gan yr ystafell newid.
“Dw i’n byrlymu â balchder.
“Alla i ddim dweud digon amdanyn nhw, fe wnaethon nhw orffen y job i orffen yn ail.”