Mae tîm pêl-droed Cymru drwodd i rownd 16 olaf Ewro 2020 ar ôl gorffen yn ail yn eu grŵp – er iddyn nhw golli’r gêm olaf o 1-0 yn erbyn yr Eidal yn Rhufain.

Sgoriodd Matteo Pessina ar ôl 38 munud i roi’r Eidalwyr ar y blaen ar yr egwyl, ac roedd eiliadau ofnus i ddilyn i Gymru wrth iddyn nhw orfod cadw llygad ar y gêm rhwng y Swistir a Thwrci.

Ond mae Cymru drwodd ar wahaniaeth goliau yn y pen draw yn dilyn buddugoliaeth o 3-1 i’r Swistir.

Roedd Cymru’n wynebu tîm yr Eidal oedd wedi gwneud wyth newid gyda llygad ar rownd yr 16 olaf ar ôl cymhwyso yn sgil dwy fuddugoliaeth allan o ddwy.

Bu’n rhaid i Gymru chwarae’r hanner awr olaf â deg dyn ar ôl penderfyniad dadleuol i ddangos cerdyn coch i Ethan Ampadu am sathru ar droed Federico Bernardeschi.

Mae’r Eidal wedi efelychu eu record genedlaethol drwy sicrhau eu degfed gêm ar hugain heb golli.

Bydd Cymru’n chwarae yn erbyn y tîm sy’n gorffen yn ail yng Ngrŵp B – a’r ornest honno yn Amsterdam ddydd Sadwrn nesaf. Y tebygolrwydd yw mai un ai Denmarc, y Ffindir neu Rwsia fydd eu gwrthwynebwyr.

Taith i Wembley fydd gan yr Eidal a hynny er mwyn herio’r ail dîm yng Ngrŵp C.

Manylion y gêm

Dechreuodd yr Eidal yn gryf ac yn ymosodol, wrth i Emerson Palmieri orfodi Danny Ward i wneud arbediad.

Cafodd Andrea Belotti a Federico Chiesa gyfleoedd ond fe wnaethon nhw eu gwastraffu nhw.

Cafodd Chris Gunter gyfle i sgorio’i gôl ryngwladol gyntaf, ond fe wnaeth e benio cic gornel Aaron Ramsey dros y trawst.

Daeth gôl yr Eidal ar ôl i Joe Allen lorio Marco Verratti, a gymerodd y gic rydd ac fe roddodd e’r bêl yn llwybr Pessina i rwydo heibio i Ward yn y gôl.

Bu bron i Federico Bernadeschi ddyblu mantais ei dîm â chic rydd o 25 llathen, ond tarodd ei ergyd y postyn.

Gwaethygodd sefyllfa Cymru gyda’r cerdyn coch yn yr ail hanner, ond fe wnaethon nhw barhau i frwydro.

Ar ôl i Belotti a Bryan Cristante gael cyfleoedd, daeth cyfle gorau Cymru pan darodd Gareth Bale y bêl dros y trawst chwarter awr cyn y diwedd.

Mae Cymru, felly, wedi cynnal eu record o gyrraedd rowndiau olaf pob cystadleuaeth maen nhw wedi bod ynddyn nhw hyd yn hyn.