Mae Geraint Thomas ac Elinor Barker wedi’u henwi yn nhîm seiclo Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd
Bydd y ddau yn rhan o dîm o 26 a fydd yn cymryd rhan yn y cystadlaethau seiclo yn Tokyo dros yr haf.
Mae’r ddau wedi ennill medalau aur yn y gemau Olympaidd yn y gorffennol, ac mae’r tîm yn cynnwys pedwar arall sydd wedi cyflawni’r un gamp – Laura a Jason Kenny, Ed Clancy a Katie Archibald.
Bydd Geraint Thomas yn cystadlu yn y ras ffordd a’r ras yn erbyn y cloc, gydag Elinor Barker yn cystadlu yn y ras pellter.
Mae James Jones o Abertawe wedi’i ddewis fel eilydd ar gyfer y BMX hefyd.
“Mwy arbennig fyth”
“Mae’n cliché fod pobol yn y Gemau Olympaidd yn dweud eu bod nhw wedi bod yn gweithio tuag at rywbeth ers pedair blynedd, ond rydyn ni wedi bod yn gweithio ar hyn ers pum mlynedd,” meddai Elinor Barker, a enillodd fedal aur yn Rio yn 2016, wrth BBC Cymru.
“Mae’r flwyddyn ychwanegol honno wedi teimlo fel yr hiraf o’r holl flynyddoedd.
“Bydd yn fwy arbennig fyth y tro yma, mae’n debyg.
“Rydyn ni ond wedi ymarfer yn y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni wedi ffeindio bod hynny’n well mewn sawl ffordd, mae e wedi bod yn fwy hyblyg.
“Rydyn ni wedi gallu canolbwyntio gymaint arnom ni ein hunain, oherwydd does yna ddim cyfle i edrych i’r ochr a meddwl beth mae timau eraill yn ei wneud oherwydd does gennym ni ddim syniad â dweud y gwir.
“Dw i’n meddwl fod hynny’n eithaf cyffrous, ac wedi caniatau i ni ganolbwyntio.
“Dw i ddim wir yn gwybod beth i’w ddisgwyl, â bod yn onest, a fyddwn ni ddim yn gwybod nes ydyn ni allan yno.”
‘Digon i weiddi yn ei gylch’
“Dw i wedi cyffroi’n ofnadwy gan y garfan rydyn ni wedi’i dewis i gynrychioli tîm Prydain yn Tokyo, a bydd yna ddigon i gefnogwyr seiclo Prydain weiddi yn ei gylch yn ystod y Gemau Olympaidd,” meddai Stephen Park, Cyfarwyddwr Perfformiad British Cycling.
“Mae gennym ni chwe phencampwr Olympaidd yn ein carfan, gyda Geraint Thomas, Ed Clancy, Jason Kenny, Laura Kenny, Elinor Barker a Katie Archibald eisiau ychwanegu mwy o fedalau i’w henwau.
“Rydyn ni’n cael ein hadnabod am ein cryfder yn y cystadleuaethau ar y trac, ac er bod gennym ni ddisgwyliad realistig y bydd gweddill y byd yn fwy cystadleuol nag erioed eleni, dw i dal wedi cyffroi’n ofnadwy i weld pob un aelod o’r garfan trac yn chwilio am fedal yn Tokyo.”