Mae cefnogwyr Cymru sydd wedi cyrraedd Amsterdam ar gyfer y gêm yn erbyn Denmarc ddydd Sadwrn (26 Mehefin) wedi dweud ei bod hi’n “ddifrifol annheg” na fydd miloedd o gefnogwyr eraill yn ymuno â nhw.

Mae rheolau’r Iseldiroedd yn gwahardd cefnogwyr Cymru rhag teithio o’r Deyrnas Unedig, a dim ond rhai sydd wedi dilyn y tîm o Rufain, neu sy’n byw yn y Deyrnas Unedig neu ardaloedd Schengen, sy’n gallu teithio i’r wlad.

Roedd cannoedd o gefnogwyr Cymru yn Rhufain ar gyfer y gêm yn erbyn yr Eidal ddydd Sul diwethaf, ond dim ond llond llaw ohonyn nhw arhosodd yno er mwyn teithio’n syth i Amsterdam.

Dywedodd Tim Hartley o Gaerdydd ei fod e a phedwar o’i ffrindiau wedi cael cyngor gan Lysgenhadaeth Iseldiroedd yn Rhufain yn dweud mai’r oll fyddai’n rhaid iddo wneud yw cael prawf Covid negyddol ar ddiwrnod y gêm er mwyn cael mynediad i’r Stadiwm.

“Rydyn ni wedi gweld dau neu dri o ffrindiau eraill Cymreig, ond byddai’n wych meddwl fod mwy o bobol wedi gallu teithio’n gyfreithlon drwy’r llwybr hwn,” meddai Tim Hartley, sydd wedi cyrraedd Amsterdam yn syth o Rufain.

“Dw i’n teimlo’n ddrwg dros holl gefnogwyr Cymru a oedd eisiau teithio i Amsterdam. Mae e’n ymddangos mor annheg fod y rheolau wedi bod yn anodd eu dilyn, ac wedi’u newid munud olaf.

“Mae’n ddifrifol annheg.

“Ychydig iawn ohonom ni oedd yn Rhufain, a Baku, ond fe wnaethon ni’r mwyaf o dwrw ag oedden ni’n gallu.

“Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni wir yn codi hwyliau’r tîm, a bod Cymru fach, er efallai ein bod ni’n underdogs, yn gallu gwneud hi unwaith eto.”

“Dim awyrgylch”

Dywedodd cefnogwr arall, Nick Williams o dde Llundain, ei fod e wedi gwario bron i £500 ar hanner dwsin o brofion Covid er mwyn gallu dilyn Cymru o Azerbaijan i’r Eidal, ac yna i’r Iseldiroedd.

Does dim awyrgylch yn Amsterdam yn sgil diffyg cefnogwyr Cymru a Denmarc, meddai, a dywedodd “nad oedd hi’n glir” gan awdurdodau’r Iseldiroedd na swyddogion y bencampwriaeth a oedd hi’n bosib i gefnogwyr ddilyn y tîm o Rufain.

“Dw i’n teimlo’n ddrwg dros bobol aeth adre ac sydd methu dod yn ôl allan, ond fe wnaethon ni aros allan a dydyn ni heb wneud dim o’i le cyn belled ag y gwelaf i,” meddai Nick Williams.

“Rhagrithiol”

Fe wnaeth Tom Phillips, sy’n dod o Gaerfyrddin ond yn byw yn Llundain, fethu â chyrraedd Amsterdam.

Llwyddodd i weld holl gemau Cymru yn Ewro 2016, oni bai am y rownd gyn-derfynol, ac ar ôl gwario dros £300 ar docynnau i rowndiau’r grŵp a rowndiau’r 16 olaf, a mwy ar deithio, cafodd ei gynlluniau eu difetha gan reolau Covid.

“Mae’n ymddangos yn rhagrithiol i adael cefnogwyr o wlad fel Denmarc, ond ddim pobol o’r Deyrnas Unedig,” meddai Tom Phillips.

“Rhaid i ni roi ein gobeithion ar ychydig o ganlyniadau annisgwyl a rownd gyn-derfynol yn Llundain nawr.

“Dyna’r unig ffordd rydyn ni am weld peth chwarae byw yn y bencampwriaeth hon, felly ella ei fod e’n gymhelliad ychwanegol i chwaraewyr fynd trwodd.

“Gofynnwch i unrhyw gefnogwr Cymru oedd mas yn Ffrainc yn 2016 ac fe glywch chi mai hwnnw oedd haf gorau eu bywyd. Y tro hyn, dyw pethau ddim cweit felly.”

Cynghorau’n Codi Canu

Yn y cyfamser, adre yng Nghymru, mae cynghorau Ynys Môn a Gwynedd yn annog ysgolion i gymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol i gefnogi’r tîm pêl-droed cenedlaethol.

Wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru alw ar blant ysgol i recordio eu hunain yn canu Hen Wlad  fy  Nhadau ddydd  Gwener, mae cynghorau Ynys Môn a Gwynedd wedi ymuno yn yr ymgyrch.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn fod yr adran addysg wedi cysylltu â holl ysgolion yr ynys ddydd Iau, gan roi gwybod iddynt am ymgyrch Cymdeithas Bêl-droed Cymru a gofyn iddynt gymryd rhan os yn bosibl.

Mae Gwynedd hefyd wedi galw ar ei hysgolion i gymryd rhan, gyda llefarydd yn ychwanegu: “Fel cyngor rydym yn anfon ein dymuniadau gorau at Dîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru cyn eu gêm yn erbyn Denmarc ddydd Sadwrn.

“Mae Pennaeth Addysg y cyngor wedi annog ysgolion Gwynedd i gymryd rhan yn ymgyrch Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Gwener.”

Yn y cyfamser, mae’r actor byd-enwog, Michael Sheen, wedi aildrydar plant Ysgol Gynradd Baglan ym mro ei febyd yn canu dros Gymru.

Mae ymgyrch ganu Cymdeithas Bêl-droed Cymru o bosib yn ymateb cellweirus i ‘One Britain One Nation Day‘.

David Brooks yn hyderus y gall Cymru berfformio, er gwaethaf y gefnogaeth i Ddenmarc

“Mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen â’r gêm bêl-droed dan sylw.”