Mae tîm criced Morgannwg wedi colli gêm ugain pelawd gyffrous yn erbyn Swydd Gaerloyw o 34 rhediad ym Mryste.

Tarodd Glenn Phillips 94 heb fod allan oddi ar 41 o belenni a Benny Howell 53 heb fod allan oddi 33 o belenni i dorri record trydedd wiced i’r sir mewn gemau ugain pelawd gyda phartneriaeth ddi-guro o 130.

216 am ddwy oedd cyfanswm y tîm cartref, a daeth y cwrso i ben i Forgannwg ar 182 am wyth wrth iddyn lwyddo i fynd amdani yn hanner cynta’r batiad cyn i’r troellwr llaw chwith Tom Smith fowlio’n gampus, wrth gipio wiced am ddim ond 24 rhediad mewn pedair pelawd yng nghanol y batiad.

Prif sgorwyr Morgannwg oedd David Lloyd, gyda 44 oddi ar 22 o belenni, Dan Douthwaite gyda 35 oddi ar 17 o belenni a Marnus Labuschagne gyda 33 oddi ar 21 o belenni.

Batiad campus Swydd Gaerloyw

Ar ôl galw’n gywir, fe wnaeth Morgannwg wahodd Swydd Gaerloyw i fatio ac fe ddaeth Miles Hammond a Chris Dent i’r llain yn benderfynol o ymosod yn gadarn yn y cyfnod clatsio.

Tarodd Hammond bedwar pedwar a tharodd Dent dri chwech a phedwar wrth i’r Saeson gyrraedd 60 heb golli wiced ar ôl chwe phelawd – er i Dent gael ei ollwng ar 26, a fyddai wedi bod yn wiced fawr i Forgannwg.

Roedd wicedi Dent a Hammond yn rhai mawr i Forgannwg, gyda’r naill yn cael ei ddal gan Labuschagne yn tynnu oddi ar fowlio’r troellwr Callum Taylor am 29, a’r llall wedi’i ddal gan Timm van der Gugten oddi ar fowlio’r troellwr coes Labuschagne yn safle’r trydydd dyn byr i adael y tîm cartre’n 86 am ddwy yn y degfed pelawd.

O’r fan honno, fe wnaeth Phillips a Howell gosbi Morgannwg gydag ergydion cyson i’r ffin a sawl pelawd ddrud drwy gydol y batiad.

Erbyn i’r batiad ddod i ben, roedd Phillips wedi taro naw pedwar a chwech chwech oddi ar 41 o belenni i fynd o fewn un ergyd chwech i’w ganred, tra bod Howell wedi taro chwe phedwar ac un chwech oddi ar 33 o belenni.

Cwrso’n ofer

Os oedden nhw am ennill, byddai’n rhaid bod Morgannwg wedi cwrso’u trydydd sgôr mwyaf erioed ac roedden nhw’n benderfynol o fynd amdani yn gynnar yn y batiad, gan barhau â’r dacteg o gyfuno batiwr llaw dde gyda batiwr llaw chwith cyhyd â phosib.

Er i David Payne gipio wiced Nick Selman yn yr ail belawd gyda daliad i Glenn Phillips oddi ar goesau’r batiwr, llwyddodd Morgannwg i gyrraedd 61 cyn colli eu hail wiced, pan gafodd Colin Ingram ei ddal gan Ryan Higgins oddi ar fowlio Josh Shaw am 14 i adael Morgannwg yn 65 am ddwy erbyn diwedd y cyfnod clatsio – pum rhediad ar y blaen.

Ond cafodd Labuschagne ei ddal gan Dan Worrall am 33 wrth dynnu pelen araf gan Benny Howell yn y belawd ganlynol ac roedd Morgannwg yn 72 am dair.

Cafodd James Weighell ei ddyrchafu’n uwch yn y drefn fatio i geisio rhediadau cyflym ac fe sgoriodd e 13, gan gynnwys dwy ergyd chwech enfawr, cyn cael ei ddal gan Hammond yn ceisio ergydio unwaith yn ormod oddi ar fowlio Howell, a Morgannwg mewn ychydig o drafferth ar 95 am bedair.

Er eu bod nhw’n 101 am bedair erbyn hanner ffordd – chwe rhediad ar y blaen i Swydd Gaerloyw ar yr un adeg – roedd Tom Smith yn cadw’r gyfradd i lawr gyda bowlio tynn.

Colli’u ffordd

Dan bwysau i sgorio’n gyflym, cafodd Labuschagne ei fowlio gan David Payne am 33 yn y drydedd pelawd ar ddeg i adael Morgannwg yn 123 am bump, a chafodd Smith ei wobrwyo â wiced y capten Chris Cooke wrth gipio daliad oddi ar ei fowlio’i hun yn y belawd ddi-sgôr ganlynol.

Roedd Morgannwg yn 136 am chwech ar ôl pymtheg pelawd ac roedd angen un ymdrech fawr olaf os oedden nhw am ddod yn agos at y nod.

Ond tarodd Higgins goes Kiran Carlson o flaen y wiced yn y belawd ganlynol cyn i Dan Douthwaite fynd amdani gyda phedwar chwech mewn pum pelawd cyn cael ei ddal gan Hammond oddi ar fowlio Higgins yn y belawd olaf.

Cyrhaeddodd Morgannwg sgôr digon parchus yn y pen draw, ond mae eu hymgyrch siomedig yn parhau, gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn wyth gêm.

Taith i Radlett i herio Middlesex sydd ganddyn nhw yn eu gêm nesaf yn y Vitality Blast ddydd Sul (Mehefin 27).