Roedd Jonathan Davies yn siomedig na chafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod, ond mae yn dweud bod ei holl sylw ar arwain Cymru yn ystod gemau’r haf.

Bydd canolwr y Scarlets yn canolbwyntio’n llawn ar dîm Cymru, yn hytrach na’r posibilrwydd y gallai gael ei alw i garfan y Llewod i wynebu De Affrica ar y funud olaf, oherwydd anafiadau posib i ganolwyr presennol y Llewod.

Cafodd Jonathan Davies ei ddewis yn chwaraewr y gyfres gan ei gyd-chwaraewyr yn ystod taith y Llewod i Seland Newydd bedair blynedd yn ôl, ac roedd cael ei adael allan o dîm Warren Gatland eleni felly yn syndod i nifer.

Fe wnaeth Wayne Pivac ei benodi’n gapten tîm Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Canada a’r Ariannin fis nesaf, yn absenoldeb Alun Wyn Jones sy’n gapten y Llewod.

“Fy sylw gyda Chymru”

Roedd prop Lloegr, Kyle Sinckler, wedi cael ei adael allan o dîm y Llewod hefyd, ond cafodd ei alw i’r garfan yn sgil anaf i Andrew Porter.

Er hynny, nid yw cael cynnig hwyr i ymuno gyda’r Llewod yn rhywbeth mae Jonathan Davies yn ei ystyried.

“Beth bynnag sy’n digwydd, os oes anafiadau neu ddim, mae fy sylw gyda Chymru,” meddai’r canolwr 33 oed o Sir Gaerfyrddin.

“Dw i eisiau gwneud yn siŵr fy mod i’n rhoi’r fersiwn gorau ohonof i yng nghrys Cymru dros yr wythnosau nesaf.

“Mae beth bynnag sy’n digwydd tu hwnt i’m rheolaeth i. Dw i ond yn canolbwyntio ar yr hyn dw i’n gallu ei reoli.

“Yn amlwg roeddwn i’n siomedig i beidio bod yn rhan [o daith y Llewod]. Mae’n debyg fod y Llewod yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa, a byddai’r cyfle i fod yn rhan o drydedd daith wedi bod yn hyfryd, ond nid yw hynny am ddigwydd.

“Mae fy sylw’n newid nawr at sicrhau fy mod i’n gwneud popeth alla i er mwyn paratoi fy hun a’r grŵp ar gyfer cyfres yr haf,” meddai Jonathan Davies o’r gwersyll hyfforddi yn y gogledd.

“Braint anferth”

Cafodd Cory Hill ei ryddhau o’r garfan yn ddiweddar, er mwyn symud o Gaerdydd at dîm yn Japan, ac mae ei absenoldeb, a’r ffaith fod nifer o chwaraewyr rhif 10 Cymru ar daith y Llewod, yn rhoi cyfrifoldeb ychwanegol ar Jonathan Davies.

“Mae’n fraint anferth cynrychioli eich gwlad, ond mae gofyn i chi fod yn gapten yn fraint arall hefyd,” esboniodd.

“Dw i wedi gwneud hynny unwaith o’r blaen, ond mae gen i’r cyfrifoldeb ychwanegol ar gyfer yr holl ymgyrch sy’n fy nghyffroi’n fawr.

“Dw i’n edrych ymlaen at yr holl beth, ac yn mwynhau’r cyfrifoldeb ychwanegol o amgylch y grŵp.

“Bydd hi’n dair i bedair wythnos heriol ond rydyn ni eisiau cael ein herio a pharhau i dyfu ar gyfer Cwpan y Byd yn 2023.

“Mae hynny wedi bod yn neges glir gan Wayne, mae e eisiau gweld ni’n dod yn gyfforddus a gweld sut ydyn ni’n ymateb, felly bydd y gemau’n gyffrous.”

Buzz yn ôl i’r stadiwm”

Bydd 8,200 o gefnogwyr yn cael mynd i weld y gemau yn y Stadiwm Cenedlaethol dros yr haf, gan ddechrau gyda’r gêm yn erbyn Canada ar 3 Gorffennaf, a dwy gêm arall yn erbyn yr Ariannin i ddilyn.

“Mae’n gyffrous cael cefnogwyr yn ôl. Dw i’n siŵr y bydd yr wyth mil yn gwneud lot o sŵn, a bydd e’n dda ei glywed,” meddai Jonathan Davies.

“Mae gweld pobol yn ôl yn gwylio rygbi yn wych. Mae’n gyfle i’r hogia brofi ychydig o awyrgylch yn y stadiwm, oherwydd dyw rhai ohonyn nhw heb gael hynny gan eu bod nhw wedi cael eu capio yn ystod amseroedd Covid. Mae’n gyfle i bawb gael y buzz yn ôl yn y stadiwm.”

Gair o gefnogaeth i dîm Gareth Bale

Roedd gan Jonathan Davies, sy’n cefnogi Manchester United, neges o gefnogaeth i dîm pêl-droed Cymru, fydd yn chwarae Denmarc yn rownd yr 16 olaf yn yr Ewros bnawn fory.

“Rydyn ni’n cael mynd adre’r penwythnos hwn, a dw i’n siŵr y bydden ni gyd yn gwylio o’n stafelloedd byw,” ychwanegodd Jonathan Davies.

Dw i wedi darllen fod cefnogwyr yn trio mynd i Amsterdam, ond dydyn ni ddim cweit yn gallu mynd tu ôl i linell y gelyn

“Dw i heb siarad gyda’r un o’r bois, ond maen nhw’n gwneud yn dda. Gobeithio y cawn ni ganlyniad arall ddydd Sadwrn.

“Mae lot o’r bois [yng ngharfan rygbi Cymru] yn caru pêl-droed, ac rydyn ni’n cefnogi nhw cymaint ag y gallwn ni. Mae’n wych gweld unrhyw dîm o Gymru yn gwneud yn dda.”

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n annog ysgolion ar hyd a lled y wlad i gymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol heddiw a recordio’u hunain yn canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

Mae Cynghorau Ynys Môn a Gwynedd wedi cefnogi’r ymgyrch, gan alw ar ysgolion i gymryd rhan.

Mae ymgyrch ganu Cymdeithas Bêl-droed Cymru o bosib yn ymateb cellweirus i ‘One Britain One Nation Day‘.