Gyda Chymru yn chwarae Denmarc yn Amsterdam fory (26 Mehefin) yn rowndiau’r 16 olaf, wedi i’r ddwy wlad orffen yn ail yn eu grwpiau, dyma gyfle i fwrw golwg ar y prif bwyntiau trafod…
Nid yw Gareth Bale wedi sgorio i Gymru yn ei 14 gêm ddiwethaf yn y crys coch, fydd cefnogwyr Cymru ddim yno, ac mae yna hen drafod ar ddylanwad – a safle breichiau! – Kieffer Moore cyn yr ornest fawr.
Fydd Gareth Bale yn sgorio?
Does dim amheuaeth mai Gareth Bale yw arweinydd tîm Cymru, ac mae gweddill y chwaraewyr yn siŵr o edrych tuag ato am ysbrydoliaeth.
Fe wnaeth blaenwr Real Madrid ddisgleirio i Gymru yn Ffrainc bum mlynedd yn ôl pan gyrhaeddodd Cymru rownd gyn-derfynol yr Ewros.
Yn y bencampwriaeth eleni, fe wnaeth e waith arbennig wrth greu’r cyfleon i Aaron Ramsey a Connor Roberts sgorio yn y fuddugoliaeth yn erbyn Twrci.
Er hynny, methodd gic gosb yn y gêm honno, ac mae 14 gêm wedi bod ers iddo sgorio dros Gymru, a’r tro diwethaf oedd yn ystod gêm ragbrofol yn erbyn Croatia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Hydref 2019.
Denmarc yw ‘Ffefrynnau’r Bobol’
Yn 2016, Cymru oedd ail hoff dîm nifer o gefnogwyr y gwledydd eraill wrth i wlad gyda thair miliwn o bobol gyrraedd y rownd gyn-derfynol ar ôl aros 58 mlynedd i gystadlu mewn pencampwriaeth fawr.
Derbyniodd y Wal Goch wobr am “gyfraniad arbennig” gan UEFA am eu rhan yn Ewro 2016 hefyd.
Ond mae’n debyg mai Denmarc yw ‘Ffefrynnau’r Bobol’ eleni, wedi i’r chwaraewr canol cae, Christian Eriksen, ddioddef ataliad y galon yn ystod eu gêm gyntaf yn erbyn y Ffindir. Ers hynny mae ffans niwtral wedi cymryd at y Daniaid yn arw.
Record Denmarc yn erbyn Cymru
Mae Denmarc wedi ennill chwech o’r deg gêm ddiwethaf yn erbyn Cymru, gyda Chymru’n ennill y pedair arall.
Craig Bellamy sgoriodd i ennill dwy o’r gemau hynny, unwaith yn ystod gêm ragbrofol yn 1998 ar gyfer yr Ewros, ac eto mewn gêm gyfeillgar yn 2008.
Enillodd Denmarc y ddwy gêm ddiwethaf yn 2018 yn Aarhaus a Chaerdydd.
Hwb gan Kieffer Moore
Daeth pwysigrwydd Kieffer Moore i’r amlwg yn y gêm ddiwethaf yn erbyn yr Eidal, pan na ddechreuodd gan fod ganddo gerdyn melyn i’w enw’n barod.
Cafodd ei alw i’r cae pan gafodd Ethan Ampadu gerdyn coch, gyda Gareth Bale yn erfyn ar Kieffer Moore i beidio â chael cerdyn arall.
“Neidia heb freichiau” oedd cyfarwyddyd Robert Page iddo pan aeth ar y cae, ac mae gobaith y bydd yr ymosodwr talsyth 6’5” yn creu trafferthion i amddiffyn Denmarc.
Gwahardd cefnogwyr Cymru
Er nad yw Denmarc ar ‘restr sâff’ yr Iseldiroedd, mae eithriad i’r rheol yn caniatáu iddyn nhw gael mynediad i’r wlad am 12 awr gan eu bod nhw’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl i 4,400 o gefnogwyr Denmarc fod yn rhan o’r 16,000 fydd yn y dorf yn Amsterdam fory, ac mae’r gêm yn siŵr o deimlo fel un oddi cartref i Gymru.