Ar drothwy gornest gynta’r Llewod yn erbyn Japan yng Nghaeredin yfory am dri, mae Warren Gatland wedi bod yn talu teyrnged i’r capten.
Nid yw’r ffaith fod Alun Wyn Jones yn gapten Llewod Prydain ac Iwerddon 2021, er yn 36 oed, yn synnu Prif Hyfforddwr y Llewod.
Erbyn hyn mae Alun Wyn Jones wedi chwarae mewn 157 o gemau rhyngwladol, ac wedi ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bump o weithiau, gan gynnwys tair Camp Lawn, yn ogystal â chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd ddwywaith.
“Cystadleuydd anghredadwy”
Mae’n 15 mlynedd ers i Alun Wyn Jones chwarae i Gymru am y tro cyntaf, gan ennill ei gap cyntaf yn erbyn yr Ariannin ym Mhatagonia.
Roedd tîm rheoli Cymru ar y pryd yn gwybod bod ganddynt rywbeth arbennig, ac mae gyrfa ddisglair Alun Wyn Jones wedi gwireddu’r gobeithion hynny.
Os yw’n chwarae ym mhob un o’r tri phrawf yn erbyn y Springboks, yna bydd yn symud ymlaen i 12 gêm i’r Llewod, gyda dim ond Willie John McBride a Dickie Jeeps wedi chwarae mwy.
Ac er bod ei ben-blwydd yn 36 oed llai na thri mis i ffwrdd, nid yw Alun Wyn Jones yn dangos unrhyw arwydd o arafu.
“Nid wyf yn synnu ei fod wedi cyrraedd y garreg filltir honno, ac nid wyf ychwaith yn synnu ei fod wedi cael gyrfa mor hir,” meddai Warren Gatland.
“Mae gan y chwaraewyr eraill gymaint o barch ato – yr enghraifft y mae’n ei osod wrth hyfforddi, y disgwyliadau uchel sydd ganddo o’i hun.
“Dydy o ddim yn cuddio rhag unrhyw beth, a dyna pam mae ganddo gymaint o barch gan y chwaraewyr, a’r hyn rwy’n ei edmygu amdano yw nad yw byth yn cymryd y crys yn ganiataol.
“Mae’n gystadleuydd anghredadwy.
“Rwy’n ei edmygu oherwydd ei fod yn gyfforddus pan mae’n clywed syniadau gwahanol, mae’n gyfforddus yn herio eraill ac yn fy herio i pan oeddwn yn hyfforddi ac yn anghytuno â mi.
“Doeddwn i ddim bob amser yn cytuno ag ef, ond rydych chi’n gwybod ei fod yn ddyn ei hun, ac rwy’n credu mai dyna un o’r cryfderau sydd ganddo ac un o’r cryfderau y mae wedi dod i dîm Cymru.”
Bydd y Llewod yn herio Japan ar gae Murrayfield yng Nghaeredin am dri b’nawn fory (26 Mehefin) gyda’r ornest yn fyw ar Channel 4