Mae’r Cymro Gareth Thomas yn anelu am fuddugoliaeth yn y Tour de France sy’n cychwyn yfory (26 Mehefin) yn Llydaw.
Dyma fydd Tour de France rhif 11 y Cymro o Gaerdydd wnaeth ennill ras enwoca’r byd yn 2018.
Ar ôl 2020 siomedig, mae Gareth Thomas yn credu ei fod mewn cyflwr da cyn y ras eleni, ar ôl gorffen yn drydydd yn y Criterium du Dauphine, ac ennill y Tour de Romandie.
“Gwych bod yma eto”
Mewn cyfweliad â rhaglen Seiclo S4C, fydd yn dangos darllediadau byw ac uchafbwyntiau o bob cam o’r ras eto eleni, dywedodd Gareth Thomas:
“Dw i’n mynd i geisio cael y canlyniad gorau posib, a cheisio ei hennill.
“Y ffordd rwyf wedi mynd o’i chwmpas hi yw cyrraedd yma yn y siâp gorau bosib, ac rwy’n teimlo fy mod wedi gwneud hynny.
“Roedd ennill yn 2018 yn anghredadwy, uchafbwynt fy ngyrfa o bell ffordd.
“Er nad oedd ar yr un lefel, roeddwn yn dal yn hynod fodlon â dod yn ail y flwyddyn wedyn.
“Dyma fydd fy un-ar-ddegfed taith nawr, ac rwyf wedi cael digon o brofiadau da a drwg ar hyd y ffordd.
“Yn amlwg yn 2017, gwisgais y jersi melyn am bum niwrnod ac yna disgyn allan ar ôl torri pont yr ysgwydd (collar bone), felly mae [fy hanes yn y ras] wedi bod yn amrywiol, i fyny ag i lawr.
“Ond dyma’r ras feiciau orau yn y byd a’r un rydych chi’n breuddwydio am fod yn rhan ohoni, felly mae’n wych bod yma eto.”