Mae adroddiadau yn awgrymu y gallai Harry Wilson fod yn chwarae ei bêl-droed ym Mhortiwgal gyda Benfica y tymor nesaf.

Treuliodd Wilson, 24, y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Chaerdydd ac mae’n rhan o garfan Cymru yn Ewro 2020 a daeth ar y cae fel eilydd yn erbyn Twrci a’r Eidal.

Mae’n debyg bod trafodaethau cynnar rhwng Lerpwl a Benfica wedi torri i lawr, gyda’r ddau glwb yn methu cytuno ar ffi am y Cymro.

Ond mae lle i gredu y bydd Benfica ddychwelyd gyda chynnig gwell er mwyn denu Wilson i Bortiwgal.

Ar ôl gwrthod cynnig o tua £11m am Wilson o Burnley yr haf diwethaf, byddai Lerpwl eisiau ffi uwch na hynny er mwyn ei werthu.

Dim ond dwywaith y mae wedi chwarae i Lerpwl ers 2015, gan ddechrau un gêm yng Nghwpan y Gynghrair a dod ymlaen fel eilydd yng Nghwpan yr FA.

Mae Wilson hefyd wedi treulio cyfnodau ar fenthyg yn Crewe Alexandra, Hull City, Derby County a Bournemouth ar ôl ymuno ag academi Lerpwl o Wrecsam fel llanc 15 oed.