Mae Gareth Bale wedi dweud bod Cymru wedi hen arfer â pheidio bod yn ffefrynnau cyn y gêm yn erbyn Denmarc yn rownd 16 olaf Ewro 2020.
“Mae hynny’n normal beth bynnag,” meddai ymosodwr Real Madrid mewn cynhadledd i’r wasg pan holwyd am hynny.
“Ni yw’r underdogs bob amser – ry’n ni wedi arfer â hynny. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth i ni.
Mae Denmarc wedi derbyn llawer o gefnogaeth yn sgil salwch eu chwaraewr canol cae, Christian Eriksen, a ddioddefodd ataliad y galon yn eu gêm gyntaf – ond ni fydd hynny’n effeithio ar Gymru, medd Bale.
“Yn amlwg ry’n ni’n deall y sefyllfa a ddigwyddodd gyda nhw ac ry’n ni wedi anfon ein ddymuniadau gorau at Christian.
“Ond ni fydd hynny’n cael unrhyw effaith ar y gêm.
“Mae’r chwaraewyr wedi bod mewn sefyllfaoedd o’r blaen lle mae timau eraill yn ffefrynnau ac yn cael mwy o gefnogaeth.
“Yn erbyn Twrci [pan enillodd Cymru eu gêm grŵp yn Baku 2-0], roedd ganddyn nhw 18,000 o gefnogwyr yn y stadiwm, felly nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth.
“Pan ddaw’r gic gyntaf, dim ond ni’r chwaraewyr fydd ar y cae yn canolbwyntio ar y gêm.”
Gorffennol
Eriksen oedd seren y ddwy gêm rhwng Cymru a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn 2018.
Roedd y Daniaid yn fuddugol 2-0 yn Aarhus a 2-1 yng Nghaerdydd ac maent wedi ennill chwech o’r 10 gêm rhwng y ddwy wlad.
“Y tro diwethaf i ni eu chwarae ro’n ni mewn cyfnod o newid ac roedd chwaraewyr iau yn dod i mewn,” meddai Bale.
“Gyda’r amser sydd wedi mynd heibio ry’n ni wedi gwella – gwella fel tîm.
“Mae gennym ni fwy o chwaraewyr nawr ac ry’n ni’n fwy cyfforddus gyda’n gilydd.
“Gobeithio y gallwn brofi ar y cae ein bod yn dîm gwell o lawer.”
Presennol
Rhaid i Gymru geisio hawlio buddugoliaeth yn yr Iseldiroedd am y tro cyntaf erioed, a hynny heb unrhyw gefnogwyr, bron iawn, mewn torf o 16,000 yn Arena Johan Cruyff.
Mae cefnogwyr wedi’u gwahardd rhag dod o Gymru am nad yw’r Deyrnas Unedig ar restr ddiogel yr Iseldiroedd.
Gall cefnogwyr Denmarc, fel gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd, osgoi cwarantîn yn yr Iseldiroedd drwy dreulio llai na 12 awr yn y wlad – mae disgwyl tua 4,400 o gefnogwyr Denmarc yn Amsterdam.
“Does gennym ni ddim ein cefnogwyr yn y stadiwm, sy’n siomedig,” meddai Bale, a gadarnhaodd fod Cymru wedi ymarfer ciciau o’r smotyn rhag ofn bod y gêm dal yn gyfartal ar ôl amser ychwanegol.
“Ond fel chwaraewyr mae hynny’n rhywbeth ry’n ni wedi arfer ag ef, ychydig.
“Ry’n ni’n deall yr achlysur ry’n ni ynddo, mewn twrnament mawr, a phob gêm ry’n ni’n ei chwarae ry’n ni’n teimlo ei bod hi’n gêm fawr.
“Mae’n rhaid i ni chwarae’r gêm heb feddwl am yr achlysur.”
Dyfodol
Pan ofynnwyd iddo a oedd Cymru’n breuddwydio am fynd yn bell yn y twrnament, atebodd Bale: “Ry’n ni’n meddwl am y gêm hon.
“Does dim angen i ni fod yn breuddwydio am unrhyw beth heblaw chwarae’r gêm hon.
“Mae’n her fawr arall. Ry’n ni’n gwybod bod Denmarc yn dîm da iawn, tîm trefnus, gyda rhai chwaraewyr da iawn.
“Byddwn ni’n barod i fynd o’r gic gyntaf gyda pherfformiad mawr.”
Gyda sïon yn Sbaen fod Bale yn ystyried ymddeol ar ôl y twrnament, gofynnwyd iddo a fyddai’n chwarae’r gêm hon fel petai’n ei gêm olaf.
“Ym… na,” atebodd gan chwerthin, “dw i ddim am chwarae fel petai hon yw fy gêm ola’, achos dw i eisiau mynd trwyddo i’r rownd nesaf.”